Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
Mae teyrngedau wedi eu talu i gyn-gynghorydd sir a thref o Flaenafon, sydd wedi marw.
Etholwyd y Cyng. Alan Jones yn gynghorydd sir dros Flaenafon ym Mai 2012 a gwasanaethodd am naw mlynedd cyn ymddeol yn 2021 am resymau iechyd.
Fe’i hetholwyd i Gyngor Tref Blaenafon ym Medi 2011 a’i benodi’n Faer deirgwaith.
Wrth siarad yn y siambr cyn dechrau cyfarfod y cyngor heddiw, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Rydym yn drist o glywed am farwolaeth cyn-Gynghorydd Torfaen, Alan Jones. Roedd Alan yn gyfaill da ac yn gynrychiolydd nerthol dros ward Blaenafon.
"Roedd yn gefnogwr brwd ei glybiau chwaraeon lleol, gan gynnwys Clwb Rygbi Blaenafon. Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i deulu ar yr adeg drist yma."
Yn ystod ei amser gyda Chyngor Torfaen, roedd y Cyng. Jones yn Bencampwr Treftadaeth y Byd ac yn Bencampwr Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac roedd yn flaengar wrth sicrhau fod y cyngor yn cael gwobr aur yng Nghynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Lluoedd Arfog.
Wrth dalu teyrnged yn y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Cyng. Nathan Matthews, Maer Blaenafon: “Roedd y Cyng. Alan Jones yn selog wrth hyrwyddo Blaenafon. Fel cynghorydd ar Gyngor Tref Blaenafon a Chyngor Torfaen, gweithiodd yn ddiflino am flynyddoedd i gael canlyniadau cadarnhaol i’n cymuned a’i thrigolion.
"Roedd Alan yn Faer Blaenafon deirgwaith, a oedd yn adlewyrchiad o’i ymroddiad a’r meddwl mawr oedd ohono. Roedd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i helpu’r rheiny a oedd yn gofyn am ei gymorth.
“Roedd Alan yn adnabyddus ym Mlaenafon gyda meddwl mawr amdano. Yn ogystal â’i dyletswyddau gyda’r cyngor, cyfrannodd mewn nifer o ffyrdd i’r dref.
"Bu’n Llywydd Cangen Blaenafon y Lleng Prydeinig, roedd yn ymddiriedolwr ac yn aelod oes Clwb Rygbi Blaenafon ac yn gadeirydd Cymdeithas Ddinesig Blaenafon. Mae ei wasanaeth a’i ymroddiad i Flaenafon yn etifeddiaeth barhaol.
"Bydd colled ar ei ôl. Rwy’n estyn cydymdeimlad i deulu Alan a’i ffrindiau lu.”