Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
Bydd trigolion yn dechrau derbyn eu sachau ailgylchu coch yr wythnos hon.
Bydd y sachau’n cael eu cludo i gartrefi yn ystod yr wythnosau nesaf ac rydym yn gofyn i chi ddechrau defnyddio’ch sach newydd yn syth.
Bydd y sachau coch yn cael eu defnyddio ar gyfer plastig, caniau, tuniau a chartonau ac yn cael eu casglu’n wythnosol ochr yn ochr â’r blychau du, bagiau cardbord a’r biniau gwastraff bwyd.
Bydd gwydr, papur, batris, a thecstilau’n dal i fynd i’r blychau du.
Bydd trigolion yn derbyn taflen wybodaeth ynglŷn â beth i’w roi yn y sach goch, yn ogystal â chanllaw i wasanaeth ailgylchu llawn y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae’r sachau coch newydd yn cynnwys mwy na’r blychau du ac yn creu lle ychwanegol yn y blychau eu hunain.
"Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n cynhyrchu mwy o ailgylchu ar adeg y Nadolig nag adegau eraill y flwyddyn, felly byddwn yn gweithio’n galed i gludo’r sachau atoch chi i wneud yn siŵr eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o’r lle ychwanegol i ailgylchu pan fydd ei angen fwyaf."
Bydd cloriau y gellir eu cau ar y sachau – yn debyg i’r sachau glas – a fydd yn lleihau’r perygl fod eitemau’n cwympo allan neu’n cael eu chwythu.
Gallwch naill ai gadw unrhyw flychau du sbâr, eu rhoi i gymydog, neu fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd.
Yn 2023, dywedodd 87 y cant o bobl a gymerodd ran yn arolwg Codi’r Gyfradd y bydden nhw’n barod i ddidoli eu hailgylchu.
Atebion i’ch cwestiynau am y sach goch
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen