Lansio arolwg trigolion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024
Let's Talk survey

Mae arolwg trigolion wedi cael ei lansio fel rhan o ymgynghoriad ledled Cymru.

Mae'r arolwg Dewch i Siarad: Byw yn Nhorfaen yn gyfle i bobl rannu eu barn am fywyd yn y fwrdeistref a'u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau'r cyngor.

Mae'r cyngor yn un o nifer ar draws Cymru sy'n cynnal yr arolwg a gynhyrchwyd gan Ddata Cymru ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Esboniodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Mae eich barn yn bwysig i ni. Gall ein helpu i lunio gwasanaethau lleol a sut rydym yn eu cyflenwi. Mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn hefyd yn cael eu gofyn ledled Cymru gan lawer o gynghorau lleol eraill, sydd hefyd yn cynnal yr arolwg cenedlaethol hwn.

"Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan gynifer o drigolion â phosibl i gael ymateb sy'n wirioneddol gynrychioliadol. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn."

Trwy ymateb i'r arolwg hwn, byddwch yn helpu'r cyngor i ddeall yn well beth sy'n bwysig i chi, eich profiad o'ch ardal leol, yn ogystal â sut rydych chi'n gweld ac yn ymwneud â'r cyngor.

Mae'r arolwg Dewch i Siarad yn cymryd lle holiadur blaenorol y cyngor i drigolion, a gynhaliwyd ddiwethaf yn 2022.

Cwblhewch yr arolwg  

Y dyddiad cau yw dydd Gwener, 10 Ionawr, 2025. 

Mae Data Cymru’n cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.  Am fwy o wybodaeth ac i gael copïau o’r arolwg i’w lawrlwytho a rhai hawdd eu darllen, ewch i: https://dweudeichdweud.torfaen.gov.uk/dewch-i-siarad

Diwygiwyd Diwethaf: 29/11/2024 Nôl i’r Brig