Diolch i weithwyr gofal plant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024

Daeth dros 50 o bobl sy'n gweithio yn y sector gofal plant preifat i noson gydnabyddiaeth neithiwr.

Trefnwyd y Digwyddiad Gwerthfawrogi Gofal Plant mewn partneriaeth a Gofalwn Cymru / Gofal Cymdeithasol Cymru, i ddiolch i warchodwyr plant, ymarferwyr gofal plant, a staff cylchoedd chwarae ac ar ôl ysgol am y gwaith caled y maen nhw’n ei wneud.

Roedd y noson yn Eglwys Victory, yng Nghwmbrân, yn cynnwys te prynhawn, cerddoriaeth fyw a negeseuon fideo gan y Prif Weithredwr Stephen Vickers, Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt, Nick Thomas-Symonds AS ac Lynne Neagle AS.

Dywedodd Sasha, sy'n gweithio mewn meithrinfa dydd: "Roedd hi'n noson wych ac mae'n hyfryd derbyn gwerthfawrogiad, ac rwy'n edrych ymlaen at yr un nesaf."

Dywedodd Mandy, o grŵp chwarae: "Mae mor braf cael cofio amdanoch a'ch gwerthfawrogi, yn enwedig pan fo rhai diwrnodau yn anodd, mae clywed diolch yn golygu llawer."

Dywedodd Allison, gwarchodwr plant: "Mae wedi bod yn hyfryd cael ein cydnabod a'n gwerthfawrogi, pan nad ydym bob amser yn cael hynny. Mae'n braf cael pawb ynghyd. Alla’ i ddim aros am yr un nesaf."

Roedd y digwyddiad yn benllanw Wythnos gyntaf Gwerthfawrogiad Gofal Plant Torfaen gyda'r bwriad o gydnabod y rheiny sy'n gweithio yn y sector, ac annog eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal plant. 

Er mwyn llwyddo gyda rhaglen ehangu Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf, mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o ymarferwyr gofal plant cymwys i ddarparu'r gofal plant o ansawdd uchel sydd ei angen.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: Rydych chi'n rhan ganolog yn ein cymuned, oherwydd heb ofal plant ni fyddai llawer o rieni a gofalwyr yn gallu gweithio.

Dywedodd Charlotte Dickens, Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar: "Mae gweithwyr gofal plant yn cynnig gwasanaeth hanfodol i filoedd o blant a theuluoedd ar draws y fwrdeistref.

"Nid yn unig maen nhw'n cefnogi datblygiad cynnar plant, maen nhw'n eu helpu i baratoi ar gyfer yr ysgol ac yn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr ddychwelyd i'r gwaith gan wybod bod eu plant yn derbyn gofal da.

"Gwelsom gynnydd yn y galw am ofal plant preifat ar ôl cyflwyno Cynnig Gofal Plant Cymru gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn disgwyl i'r galw hwn barhau wrth i'r llywodraeth ehangu rhaglen Dechrau'n Deg gyda'r nod o helpu teuluoedd mewn cymunedau mwy difreintiedig."

Mae cefnogi teuluoedd i elwa o ofal plant mewn ardaloedd Dechrau'n Deg yn rhan o Amcan Lles y cyngor i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal plant ymweld â gwefan swyddi Cyngor Torfaen neu Gofalwn Cymru.

Am wybodaeth am ofal plant yn Nhorfaen, ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/11/2024 Nôl i’r Brig