Meddygfeydd ffliw cymunedol i blant

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024
Winter illness SM 2024

Mae meddygfeydd ffliw ychwanegol yn cael eu cynnal ar gyfer plant oedran ysgol gynradd.

Maen nhw’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Imiwneiddio y Nyrsys Ysgol i blant a gollodd y sesiynau brechu yn eu hysgolion neu sydd ddim yn mynd i’r ysgol.

Does dim angen apwyntiad - gall rhieni neu ofalwyr ddod gyda’u plant. Meddygfeydd brechu cymunedol: https://bipab.gig.cymru/brechiadau1/clinigau-brechu-dros-dro/

Daw hyn wrth i ymchwil gan Dîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddangos llai o absenoldeb mewn ysgolion ble roedd disgyblion wedi derbyn brechlyn y ffliw. 

Edrychon nhw ar ddata absenoldeb 25 o ysgolion yng Ngwent ble cafodd dros 75% eu brechu a 25 ysgol yng Ngwent ble cafodd llai na 49% eu brechu.

Dangosodd yr ymchwil fod yr ysgolion ble roedd llai wedi cael eu brechu wedi gweld mwy o salwch ar ddechrau’r flwyddyn hon.

Dywedodd Angharad Griffiths, Rheolwr Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Edrychodd yr astudiaeth a 50 o ysgolion cynradd- ledled Gwent gyda’r lefelau uchaf ac isaf o frechiad y ffliw.

Os oes gan eich plentyn dymheredd uchel neu mae’n rhy sâl i fynd i’r ysgol, cysylltwch â’r ysgol cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Y neges allweddol yw, os yw eich plentyn yn sâl neu â salwch sy’n golygu y dylen nhw gadw draw o’r ysgol, mae’n bwysig eu bod yn gwneud. 

"Os nad yw eich plentyn yn sâl, ond dydych chi ddim yn siŵr a ddylen nhw fynd i’r ysgol, gallwch gael cyngor o wefan Iachach Gyda’n Gilydd neu drwy siarad â’r ysgol.

"Ni fydd plant yn dysgu os nad ydyn nhw’n teimlo’n dda od mae yna gyflyrau eraill na ddylai eu hatal rhag mynd i’r ysgol a chael y mwyaf o’r cyfle hwnnw."

"Er bod angen ymchwil pellach i resymau penodol am absenoldeb oherwydd salwch, mae’r gwaith yn dangos bod brechlyn y ffliw yn helpu i gadw plant yn iach ac yn yr ysgol yn ystod y gaeaf."

Gall y ffliw fod yn ddifrifol - gall symptomau fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at salwch mwy difrifol fel broncitis a niwmonia. 

Os yw eich plentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol, rhowch wybod i'r ysgol cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych chi’n siŵr a all eich plentyn fynd i’r ysgol ai peidio, mae gan wefan ABB Iachach gyda’n Gilydd Cymru gyngor am nifer o gyflyrau, gan gynnwys peswch, annwyd. Llwnc tost a firysau.

Am fwy o wybodaeth, gwyliwch ein fideo gydag Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Gwyliwch y fideo: https://www.youtube.com/watch?v=8hiaVU0V4YY&t=2s

Os oes gan eich plentyn dymheredd uchel neu mae’n rhy sâl i fynd i’r ysgol, cysylltwch â’r ysgol cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Y neges allweddol yw, os yw eich plentyn yn sâl neu â salwch sy’n golygu y dylen nhw gadw draw o’r ysgol, mae’n bwysig eu bod yn gwneud. 

"Os nad yw eich plentyn yn sâl, ond dydych chi ddim yn siŵr a ddylen nhw fynd i’r ysgol, gallwch gael cyngor o wefan Iachach Gyda’n Gilydd neu drwy siarad â’r ysgol.

"Ni fydd plant yn dysgu os nad ydyn nhw’n teimlo’n dda od mae yna gyflyrau eraill na ddylai eu hatal rhag mynd i’r ysgol a chael y mwyaf o’r cyfle hwnnw."

Diwygiwyd Diwethaf: 27/11/2024 Nôl i’r Brig