Cytuno ar amserlen ar gyfer cynllun datblygu newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024

Mae amserlen ddiwygiedig wedi ei chymeradwyo ar gyfer cyflenwi Cynllun Datblygiad Lleol Newydd y cyngor.

Bydd y cynllun yn pennu ble bydd safleoedd ar gyfer tai a chyflogaeth yn cael eu gosod, yn ogystal â nodi meysydd a chamau i wella lles a bioamrywiaeth leol.

Mae cynllun presennol Cyngor Torfaen ar gyfer 2013 tan 2021 ac roedd gwaith wedi dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer 2022-2037. 

Yr wythnos yma, cytunodd cynghorwyr ar Gytundeb Cyflenwi newydd, sy’n gosod yr amserlen ar gyfer datblygiad y cynllun a sut a phryd y gall pobl gymryd rhan.

Y dyddiadau allweddol yw:

  • Strategaeth Ffafredig Hydref 2025
  • Adneuo Cynllun - Hydref 2026
  • Cyflwyno i Lywodraeth Cymru - Ionawr 2028
  • Mabwysiadu gan Gyngor Torfaen - Rhagfyr 2028

Mae’r Strategaeth Ffafredig yn amlinellu cyfeiriad strategol y Cynllun Datblygu Lleol ac mae’r Cynllun wedi ei Adneuo’n rhoi manylion y cynllun ei hun.

Bydd manylion sut a phryd y gall trigolion wneud sylw ar y Strategaeth Ffafredig a’r Cynllun wedi ei Adneuo’n cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor a’i sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Cynllun Cyflenwi newydd yn cymryd lle’r cytundeb gwreiddiol a gymeradwywyd gan gynghorwyr yn 2023.

Bydd y Cytundeb Cyflenwi ar gael i’w ddarllen yn llawn ar wefan y cyngor a bydd crynodeb hefyd ar gael mewn canolfannau gofal cwsmer a llyfrgelloedd yn gynnar yn Rhagfyr. 

Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2024 Nôl i’r Brig