Cyngor yn adnewyddu Cyfamod y Lluoedd Arfog

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024
armed forces image

Mae'r cyngor wedi ailddatgan ei ymrwymiad i gefnogi aelodau'r lluoedd arfog ar draws y fwrdeistref.

Fe wnaeth y  Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor, lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gydag Is-gyrnol Stephen Tancock, Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol (Cyffinwyr Cymru) yng nghyfarfod llawn y cyngor yr wythnos hon.

Mae'n golygu bod y cyngor wedi adnewyddu ei Addewid Aur i gynnig cefnogaeth i aelodau'r holl luoedd arfog ledled Torfaen, yn cynnwys y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn ogystal â chyn-filwyr.

Dywedodd y Cyng. Anthony Hunt: "Croesawaf y cyfle i lofnodi’r cyfamod ac ailddatgan ein hymrwymiad. Mawr yw ein dyled a’n diolch i aelodau’r lluoedd arfog, boed yn gwasanaethu ar hyn o bryd a’n cyn-filwyr, am eu gwasanaeth i’r wlad hon. Trwy ailddatgan ein hymrwymiad iddynt, rydym yn diolch iddynt ac yn addo ein cefnogaeth barhaus."

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cyd-fynd â Chyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, sy'n annog cefnogaeth ehangach i gymuned y lluoedd arfog.

Torfaen oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i roi cymorth ar faterion tai â blaenoriaeth i deuluoedd cyn-filwyr a'r lluoedd arfog. Mae'r cyngor hefyd yn sicrhau y bydd cyn-filwyr sy'n gwneud cais am swyddi o fewn y sefydliad, yn cael cyfweliad.

Dywedodd y Cynghorydd Gaynor James, hyrwyddwr lluoedd arfog, cyngor Torfaen: "Os ydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog, yn gyn-filwr, yn aelod o'r teulu, yn weddw neu'n wraig weddw, mae Torfaen wedi ymrwymo i ddarparu mynediad hawdd i'r cymorth a'r hawliau y mae gennych hawl i’w derbyn. O hybiau i’n cyn-filwyr i gyngor ymarferol, rydym yn cymryd ein haddewid i'r lluoedd arfog o ddifri."

Dywedodd Is-gyrnol Stephen Tancock: "Mae gan y Lluoedd Arfog a'r Cyngor gymaint yn gyffredin, yn cynnwys canlyniadau go iawn i'n pobl a'r Genedl. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl heb dîm medrus iawn, gwaith tîm ac arweinyddiaeth eithriadol. Felly rwy'n falch iawn bod cyngor Torfaen wedi addo i gydnabod, cefnogi a manteisio ar y cyfoeth o dalent a gynrychiolir gan ein pobl a'n cyn-filwyr."

Mae dau hwb i gyn-filwyr yn Nhorfaen. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cynnig cyfle i wneud ffrindiau newydd, rhannu profiadau a chael cymorth.

Mae'r hwb yng Nghwmbrân yn cyfarfod bob dydd Mercher (10am-ganol dydd) a bob trydydd dydd Llun o’r mis ym Mlaenafon (3pm-5pm). Cysylltwch â Zoe.Gibbs@torfaen.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

I gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, ewch i Cyfamod Cymunedol Torfaen | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 20/11/2024 Nôl i’r Brig