Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio wedi cymryd rhan mewn prosiect i ddysgu mwy am amrywiaeth ddiwylliannol a chredoau crefyddol.
Aeth disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 i addoldai gwahanol, gan gynnwys Synagog Unedig Caerdydd, Teml Hindŵ Shree Swaminarayan, Sikh Gurdwara yng Nghaerdydd, a Mosg Jamia Casnewydd.
Ariannwyd y prosiect gan y Tîm Cydlyniad Cymunedol a oedd wrth law gyda rheini i wylio’u gwasanaeth ysgol yr wythnos ddiwethaf fel rhan o Wythnos Ryng-Ffydd.
Dywedodd Max o Flwyddyn 6: “Ar ôl ymweld â’r addoldai yma, rwy’ wedi dysgu sut i weddïo fel pobl eraill o grefyddau gwahanol ac rwy’ wedi bod yn ymarfer myfyrdod gartref.”
Ychwanegodd Ffion o Flwyddyn 6: “Y peth mwyaf i mi ddysgu oedd bod pawb yn gyfartal, ac mae’n bwysig parchu eraill.”
Fel rhan o’r gwasanaeth, dangosodd y disgyblion gopïau o arteffactau o bob addoldy, perfformion nhw ganeuon traddodiadol a rhannon nhw eu profiadau personol.
Dywedodd y Pennaeth, Paul Welsh: "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu am gredoau gwahanol a deall sut gallwn ni fyw gyda’n gilydd mewn cymuned i hyrwyddo daioni cyffredin.
“Mae deall arteffactau crefyddol a gofyn cwestiynau i arweinwyr a gwirfoddolwyr wedi bod o fudd i’n disgyblion trwy gynyddu eu gwybodaeth a hyrwyddo goddefgarwch ac empathi."
Mae Grant Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent yn ariannu prosiectau sy’n herio gwahaniaethu, yn hyrwyddo cynhwysiant, yn adeiladu synnwyr o berthyn trwy ddod â phobl at ei gilydd.
Mae ymgyrch #DdimYnoColliAllan yn dathlu’r profiadau dysgu gwahanol sydd ar gael i ddisgyblion sy’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Am fwy o wybodaeth am grant cydlyniad cymunedol y flwyddyn nesaf, cysylltwch â: communitycohesionteam@torfaen.gov.uk