MenTalk

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
MenTalk

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, mae prosiect cymorth iechyd meddwl newydd yn Nhorfaen wedi gwella bywydau tua 40 o ddynion sy'n wynebu rhwystrau i weithio yn y tymor hir, a hynny’n sylweddol.

Mae MenTalk, sy'n cael ei redeg gan dîm Greu Cymunedau Cryf Cyngor Torfaen, yn grŵp cymorth cymheiriaid sy’n ymwneud â lles. Mae’n cynnig amgylchedd croesawgar i ddynion gyfarfod, sgwrsio ac adeiladu rhwydwaith cymorth.

Cynhelir sesiynau yn y Pwerdy, Cwmbrân bob dydd Mercher rhwng 1pm a 3pm, ac mae croeso i aelodau newydd bob amser.

Mae Swyddogion Meithrin Gwydnwch Cymunedol yn hwyluso trafodaethau grŵp. Maent yn annog aelodau i rannu profiadau cadarnhaol a heriau personol, sy’n eu helpu i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus a hunan sicrwydd.

Mae'r grŵp hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ac yn ddiweddar aeth ati i gydweithio â Chanolfan Gymunedol Coedwedd yng Ngarndiffaith i greu tair mainc 'siarad'. Cyn bo hir, bydd y meinciau hyn yn cael eu gosod yn y gymuned i annog pobl i ddechrau sgyrsiau.

Matt Wicks, 34, o Bont-y-pŵl yw un o sylfaenwyr y grŵp, ac mae wedi wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol. Dywedodd: "Diolch i MenTalk mae pethau wedi dod ymlaen yn wych i mi ac rwy’n gwneud llawer mwy na’r hyn y byddwn i’n ei wneud fel arfer.

“Oherwydd y cysylltiadau yr wyf wedi eu gwneud yma, rwy’n gwneud llawer mwy o wirfoddoli, creu meinciau yn y gweithdy, a chymryd rhan yn y cwrs coginio iach. Ers hynny, gofynnwyd i mi arwain cwrs coginio ar gyfer pobl ifanc, fel y gallant ddysgu sgiliau bywyd a sgiliau galwedigaethol, gwerthfawr."

Mae cyfranogwyr hefyd yn derbyn pecyn cymorth cynhwysfawr, gan gynnwys mynediad at hyfforddiant, mentoriaid cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysiant ariannol, yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau cymunedol eraill.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pum aelod wedi mynd ymlaen i wirfoddoli yn y gymuned, mae un wedi dod o hyd i waith, ac un arall yn hyfforddi i fod yn gwnselydd.

Mae Creu Cymunedau Cryf yn Nhorfaen yn cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf bregus yn Nhorfaen. Maent yn ymyrryd yn gynnar i feithrin teuluoedd, plant ac oedolion gwydn.

Mae MenTalk wedi derbyn £5.500 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

I gael mwy o wybodaeth am MenTalk a sut i gymryd rhan, cysylltwch â thîm Creu Cymunedau Cryf drwy e-bostio Maurice.chambers@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 19/11/2024 Nôl i’r Brig