Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Tachwedd 2024
Mae Llyfrgelloedd Torfaen wedi cyhoeddi enillydd Her Darllen yr Haf, ‘Crefftwyr Campus!”, a welodd dros 900 o blant yn cymryd rhan yn ystod yr haf.
Gwahoddodd llyfrgelloedd plant 4-11 oed i blymio i fyd llyfrau, gan ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell o’u dewis dros y chwe wythnos o wyliau.
Cafodd enillydd eleni, Samuel Boulton, 6 oed, daleb gwerth £100 i Smyths Toy Store ar ôl i’w enw gael ei ddewis ar hap o restr o dros 400 o blant a gwblhaodd yr her.
Cyflwynwyd y daleb i Samuel, disgybl yn Ysgol Gynradd Coed Efa, ynghyd â thystysgrif a medel mewn gwasanaeth diweddar i ddathlu yn yr ysgol.
Mae Her Darllen yr Haf, a gyflwynir gan The Reading Agency, nid yn unig yn annog plant i edrych ar lyfrau, ond mae hefyd yn meithrin cariad gydol oes at ddarllen.
I gyd-fynd â’r her, a ddechreuodd yng Ngorffennaf, cynhaliodd Llyfrgelloedd Torfaen nifer o sesiynau stori a chân, crefftau, gweithgareddau codio a gweithdai cerddoriaeth, gan greu awyrgylch darllen bywiog i grefftwyr campus o bob oed.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad: “Roedd staff yn ein llyfrgelloedd wrth eu bodd â’r nifer gymerodd rhan eto eleni. Llongyfarchiadau i Samuel am ennill her eleni; mae ei gariad at ddarllen yn galonogol.
"Mae’r cynllun hwn yn cyd-fynd yn berffaith ag amcanion lles ein cynllun sirol, gan hyrwyddo datblygiad addysgol a meithrin brwdfrydedd gydol oes am ddysgu ymhlith ein pob ifanc. Mae Samuel yn gosod esiampl wych i ddarllenwyr ifanc eraill yn ein cymuned.”
Gallwch ymuno â llyfrgelloedd Torfaen am ddim! Dewch â phrawf o’ch enw a’ch cyfeiriad neu ymunwch ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am Lyfrgelloedd Torfaen a digwyddiadau sydd ar y gweill, cysylltwch â nhw trwy 01633 647676 neu ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd Torfaen.