Grantiau ar gyfer cefnogaeth gymunedol dros y gaeaf

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Tachwedd 2024
Untitled design (4)

Gall grwpiau cymunedol ac elusennau wneud cais am grantiau o hyd at £4,000 i ddarparu gwasanaethau galw heibio. 

Mae cynllun Croeso Cynnes y cyngor yn cynnig dau grant o hyd at £2,000 i helpu sefydliadau i ddarparu mannau cynnes a bwyd. 

Gall y grant mannau cynnes gael ei ddefnyddio i ail-lansio gwasanaeth canolfan glyd blaenorol neu sefydlu un newydd. 

Gall y grant cymorth bwyd gael ei ddefnyddio i ariannu cynlluniau bwyd cymunedol cyfredol, neu brosiectau newydd sy’n ceisio helpu pobl mewn tlodi bwyd.  Gallan nhw gynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n ceisio cyrraedd grwpiau mwy anodd eu cyrraedd fel cyflenwad bwyd.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Bydd yna nifer o bobl yn ein cymunedau a fydd yn pryderu am dalu am wresogi a bwyd dros y gaeaf.

"Fel y gwelsom y gaeaf diwethaf, mae canolfannau clyd yn cynnig lle diogel cyfforddus i bobl sy’n cael trafferthion, ond maen nhw hefyd yn gallu rhoi synnwyr o gymuned a chyswllt i wasanaethau sy’n darparu cymorth tymor hir.

"Gweithio gyda sefydliadau sy’n deall anghenion trigolion lleol yw un o’r nifer o ffyrdd yr ydym yn gweithio i gefnogi’n cymunedau."

Gall sefydliadau wneud cais am un grant neu’r ddau.

Rhaid i brosiectau ymgysylltu â’r gymuned ehangach a gall olygu gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau eraill i wneud y mwyaf o adnoddau ac atal dyblygu gwasanaethau.

Mae’r cynllun Croeso Cynnes yn rhan o raglen Creu Cymunedau Cydnerth y cyngor ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

I ofyn am becyn cais, danfonwch e-bost at CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk.

Y dyddiad cau i wneud cais am un grant neu’r ddau yw dydd Llun 25 Tachwedd.

Mae gwybodaeth am gymorth i bobl sy’n cael trafferth â chostau byw ar gael ar ein gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2024 Nôl i’r Brig