Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024
Mae dwy fenyw busnes lwyddiannus wedi bod yn siarad am hangerdd dros eu busnesau.
Rhannodd Debbie Gliniany a Vicki Spencer-Francis eu syniadau am redeg busnesau arobryn yn nigwyddiad Menywod mewn Busnes ddydd Iau
Penderfynodd Debbie, a sefydlodd Mamau Ffit, ddilyn ei chalon ar ôl datblygu diddordeb mewn ffitrwydd ac iechyd menywod.
Dywedodd y fam i ddau o blant, a sefydlodd ei busnes yn Ionawr 2020: "Rwy’ wedi cael hyd i fyd angerdd - rwy’n cael gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Hunangred sydd wedi bod y peth pwysicaf i fi - dilynais yr hyn yr oeddwn i’n frwd amdano i fynd i’r lle yr wyf heddiw, ac rwy’n parhau i wneud hynny."
Roedd Vicki Spencer-Francis, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cowshed Communications, hefyd yn siaradwraig gwadd yn y digwyddiad yng Ngwesty Parkway, Cwmbrân.
Dywedodd Vicki, o Raglan, a sefydlodd ei chwmni cysylltiadau cyhoeddus yn Ionawr 2014: "Roeddwn i am wneud yn siŵr fod fy musnes mor ystyrlon ag y gallai fod. Rydym wedi parhau’n driw i’n hamcan – mae gan bob dim yr ydym yn ei wneud ystyr, gwerth ac effaith."
Daeth dros 100 o fenywod i’r digwyddiad a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Roedd yno adloniant byw, cyfleoedd i rwydweithio a marchnad Nadolig bach.
Aeth yr arian o’r noson i Gymorth i Fenywod Cyfannol, sy’n cefnogi dioddefwyr camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol a’u teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Hoffwn ddiolch i Westy Parkway am roi’r ystafell ac i Fanc Barclays am roi arian cyfatebol i’r hyn a godwyd yn y raffl.
"Nid yn aml yr ydym yn cael cyfle i fod mewn ystafell yn llawn menywod busnes ac mae’r gyd-ddealltwriaeth sy’n deillio o hynny yn arbennig iawn.
"Rydym ni yma oherwydd ymdrech ein mamau a’n neiniau. Mae digwyddiadau fel un heno’n dangos faint o gynnydd sydd wedi ei wneud ond hefyd beth yn fwy y gallwn ni wneud wrth weithio gyda’n gilydd."
Trefnwyd y digwyddiad gan dîm ymgysylltiad busnes y cyngor.
Dilynwch Gyswllt Busnes Torfaen am fanylion digwyddiad Menywod mewn Busnes y flwyddyn nesaf a digwyddiadau eraill.
I ymuno a chlwb busnes Llais Busnes Torfaen, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk. Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 28 Tachwedd.