Wedi ei bostio ar Dydd Llun 11 Tachwedd 2024
Mae tua 30 o bobl ifanc, rhwng 11 a 18 oed, wedi cymryd rhan yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Ieuenctid Torfaen.
Ymunodd cynrychiolwyr o ysgolion uwchradd lleol ag aelodau o 17 o sefydliadau a thimau pobl ifanc gwahanol, i drafod materion sy'n bwysig i blant a phobl ifanc yn y Fwrdeistref.
Meddai Dirprwy Gadeirydd Fforwm Ieuenctid Torfaen, Harry Legge: Mae'r Gynghrair Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc gael eu lleisiau wedi’u clywed a bydd yn cael effaith gadarnhaol yn y dyfodol. Mae yna gyfle i bawb ddweud eu dweud a chlywed beth sydd gan eraill i'w ddweud hefyd."
Trefnwyd y cyfarfod gan Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y Cyngor, Philip Wilson.
Meddai: "Nod y Gynghrair Ieuenctid yw rhoi fforwm i bobl ifanc i ddod at ei gilydd i drafod materion fel iechyd a llesiant, sy'n bwysig iddyn nhw. Gallant rannu barn a chydweithio i roi llais clir a chryf yn ôl i Gyngor Torfaen, a sefydliadau partner, i helpu i sicrhau bod eu barn a'u hanghenion yn cael eu clywed. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl ifanc am ddod, a diolch yn arbennig i ddisgyblion a staff Ysgol Crownbridge am gynnal y cyfarfod cyntaf hwn."
Bydd canlyniadau cyfarfod cyntaf y Gynghrair Ieuenctid yn cael eu bwydo yn ôl i'r Cyngor, ac yna bydd y Cyngor yn dilyn i fyny gyda'r Gynghrair Ieuenctid yn ei gyfarfod nesaf yn gynnar yn 2025.
Law yn llaw ag Ysgol Gorllewin Mynwy, roedd amrywiaeth eang o sefydliadau yn rhan o'r cyfarfod cyntaf, gan gynnwys: Sgowtiaid Cymru, Fforwm Ieuenctid Torfaen, Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen, Gofalwyr Ifanc Torfaen, Canolfan TOGS Torfaen, Llais, Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc, Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen, Home Start Cymru, Melin a Bron Afon, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen a Gwasanaeth Chwarae Torfaen.
Roedd St Giles Cymru, sef sefydliad sy'n rhedeg prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc sy'n cael eu dal yn ôl gan dlodi, diweithdra, y system gyfiawnder troseddol neu ddigartrefedd, hefyd yn y sesiwn.
Meddai Aimee Evans, gweithiwr achos St Giles: "Mae rhai pobl ifanc, oherwydd eu cefndir a'u profiadau yn y gorffennol, yn ynysig iawn mewn sawl ffordd. Mae'r gynghrair Ieuenctid yn gyfle iddyn nhw sylweddoli bod ganddyn nhw lais a bod ganddyn nhw ddewisiadau, er efallai bod y rhain wedi cael eu cymryd oddi arnyn nhw yn y gorffennol. Mae hefyd yn gyfle iddyn nhw i deimlo'n rhan o gymuned a theimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw, ac mae'r ddau beth hyn yn bwysig iawn."
Mae'r gynghrair yn dod â fforymau Ieuenctid a chynghorau ysgol ynghyd o bob rhan o Dorfaen, ac os ydych chi’n aelod o sefydliad ieuenctid ac eisiau rhagor o wybodaeth am sut y gall eich sefydliad chi ymuno â'r gynghrair, anfonwch neges trwy e-bost i YourVoice@torfaen.gov.uk