Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024
Mae yna gais i drigolion ddweud eu dweud am gyfres uchelgeisiol o brosiectau posibl ar gyfer canol tref Cwmbrân.
Mae Cynllun Creu Lleoedd Cwmbrân yn cyflwyno nifer o gynigion ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys mannau cyhoeddus gwell, llwybrau cerdded a beicio a mwy i'w wneud gyda'r hwyr.
Mae'r Cynllun hefyd yn tynnu sylw at y ffordd y gallai amrywiaeth o ffynonellau cyllid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector helpu i wireddu'r weledigaeth.
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun ac i ddweud eich dweud, ewch i dweudeichdweud.torfaen.gov.uk neu i un o'r sesiynau galw-heibio canlynol:
Dydd Mercher 27 Tachwedd, 11am - 6:30pm, Gwent Square yng nghanol tref Cwmbrân
Dydd Iau 28 Tachwedd, 11am - 6:30pm, Llyfrgell Cwmbrân
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydyn ni’n gyffrous i ddadorchuddio'r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol tref Cwmbrân, sy'n weledigaeth feiddgar ar gyfer y dyfodol.
"Dydy’r Cynllun hwn ddim yn golygu gwneud gwaith datblygu yn unig; mae'n golygu creu lle cymunedol bywiog, cynhwysol a chynaliadwy sy'n bodloni anghenion trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydyn ni’n annog pawb i rannu eu meddyliau ac i helpu i lunio dyfodol canol ein tref."
Mae'r Cynllun yn canolbwyntio ar bum ardal: Llain y Dwyrain, Gwent Square a Gorsaf Fysiau Cwmbrân, Monmouth Square, General Rees Square, a Glan y Gamlas (Canalside) . Mae gan bob ardal ei nodweddion ei hun ac chynlluniwyd y prosiectau a awgrymir i gyflwyno buddion niferus. Cafodd Cynlluniau Creu Lleoedd Blaenafon a Phont-y-pŵl eu cymeradwyo gan gynghorwyr yn 2022.
Y llynedd, llofnododd y Cyngor Siarter Creu Lleoedd Cymru sy'n ymrwymo i gynnwys cymunedau mewn cynlluniau creu lleoedd a datblygu cynaliadwy.
Mae fframwaith gweledigaeth a buddsoddiad ar wahân hefyd wedi ei lunio fel rhan o raglen Gweledigaeth Tymor Hir i Drefi Llywodraeth y DU. Fel rhan o’r rhaglen, mae £20m wedi ei ddyrannu i Gwmbrân dros y 10 mlynedd nesaf.
Un o amcanion llesiant Cynllun Sirol y Cyngor yw sicrhau bod Torfaen yn lle gwych ar gyfer busnes, trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner dydd ddydd Mercher 4 Rhagfyr.
Os hoffech adael eich barn a'ch sylwadau yn Gymraeg yn unrhyw un o'r sesiynau galw-heibio, anfonwch neges trwy e-bost i GetInvolved@torfaen.gov.uk a rhowch wybod i ni dridiau cyn y sesiwn yr ydych yn gobeithio dod iddi.