Cydnabod gwelliant sylweddol mewn Gwasanaethau Addysg

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024
Not In Miss Out banner

Yn ystod mis Hydref, cynhaliodd Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ei ymweliad monitro diweddaraf ar gyfer Cyngor Torfaen.

Yn ganlyniad, rhoddwyd barn fod gwasanaeth addysg y Cyngor wedi gwneud cynnydd sy’n ddigonol i'w dynnu oddi ar y rhestr o awdurdodau lleol sy’n destun pryder sylweddol.

Cydnabu arolygwyr Estyn:

  • Ganlyniadau gwell i ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd
  • Rheoli perfformiad cryfach
  • Hunanwerthuso cryfach a gwelliannau mewn prosesau cynllunio
  • Arweinyddiaeth strategol well ar gyfer dysgu ac anghenion dysgu ychwanegol

Adroddodd yr arolygwyr am welliannau hefyd mewn arweinyddiaeth, gan dynnu sylw at ddatblygiad cynlluniau clir i wella’r gwerthuso, yr atebolrwydd a’r perfformiad ar draws y Cyngor. Mae'r gwaith hwn, dan arweiniad y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr, wedi sicrhau bod holl staff y gwasanaeth addysg yn deall eu rôl o ran sicrhau gwelliannau i blant a phobl ifanc ar draws yr awdurdod lleol.

Nodwyd hefyd weledigaeth glir y Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer gwelliant ar draws y gwasanaeth addysg, gan sicrhau bod yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at welliannau parhaus yr awdurdod lleol.

Amlygodd yr arolygwyr ffocws cryf ar wella presenoldeb disgyblion; gwaith effeithiol i nodi a chefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; a gwelliannau yn y ffordd y mae pobl ifanc wedi helpu i lywio cyfeiriad strategol y Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad cadarnhaol hwn yn fawr iawn ac mae'n dyst i'r dull gweithredu manwl a thrylwyr iawn sydd ar waith ar draws y Cyngor cyfan i wella canlyniadau i bob plentyn ac unigolyn ifanc yn Nhorfaen.

"Mae effaith ein dull system-gyfan yn golygu ein bod nawr yn gweld gwelliant ar draws ein hysgolion i gyd. Rhaid canmol pawb sy'n gweithio'n galed yn yr adran ac yn ein hysgolion am eu hymdrechion."

Ychwanegodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen:

"Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n taith wella hyd yma, o staff mewn ysgolion i'n Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Plant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Addysg, Richard Clark fel Aelod Cabinet a Rose Seabourne a'i haelodau craffu. Gyda'i gilydd maen nhw’n gweithio'n galed ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr, wedi'u sbarduno gan y ffaith ein bod mor benderfynol o leihau anghydraddoldeb a gwella cyfleoedd bywyd i bob person ifanc yn Nhorfaen.

"Mae'r adroddiad hwn yn ganlyniad i her a chraffu cadarn a diwylliant o wella’n barhaus. Fodd bynnag, dydy’r gwaith ddim yn gorffen yma, a dim ond meincnod ydyw a rhywbeth y byddwn yn ei ddisgwyl o’r pwynt yma. Dydy ein pobl ifanc ddim yn haeddu unrhyw beth yn llai na hyn."

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn

Diwygiwyd Diwethaf: 05/11/2024 Nôl i’r Brig