Lledaenwch y llawenydd y Nadolig hwn

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Tachwedd 2024
Santa Appeal Tile 2 CYM

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen wedi lansio’r Apêl Siôn Corn blynyddol i gefnogi'r rheiny a allai golli mas dros y Nadolig.

Bydd yr apêl ar waith o ddydd Llun 4 Tachwedd hyd 2 Rhagfyr 2024, ac mae’n sicrhau y bydd pob plentyn ac oedolyn ifanc a gefnogir gan y gwasanaeth yn cael anrheg mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Bydd preswylwyr sy'n dymuno rhoi anrheg yn cael oedran a rhyw’r plentyn, a chod unigryw i'w roi ar eu hanrheg a fydd heb ei lapio.

Gellir hefyd roi eitemau bwyd sydd ddim yn pydru er mwyn creu hamperi i bobl ifanc sy’n 16 oed neu’n hŷn ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

Sut i Gyfrannu

  • Ar gyfer plant 0-15 oed: Ffoniwch 01633 647538
  • Ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed: Ffoniwch 01633 647539

Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9am a 4pm.

Lleoliadau sy’n Derbyn Cyfraniadau

TYPSS The Studio, Ystâd Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU

  • Bob Dydd Mawrth: 9am – 5pm

Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, NP44 1XQ

  • Bob Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9am – 5:30pm
  • Bob Dydd Iau: 8:45am – 7:00pm
  • Bob Dydd Gwener: 8:45am – 6pm
  • Bob Dydd Sadwrn: 8:45am – 1pm

Swyddfeydd Rheolwyr Canolfan Cwmbrân, Y Dderbynfa, Llawr 1, 17-22 The Parade (uwchben Siop Gigydd Douglas Willis)

  • Bob Dydd Mercher: 10am – 2pm

Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN

  • Bob Dydd Mawrth: 10am - 2pm

Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, NP4 7LH

  • Bob Dydd Iau: 11am – 3pm

Circulate Blaenafon, Pont-y-pŵl, NP4 9RL

  • Bob Dydd Mawrth: 10am – 2pm

Co-star, Neuadd Gymunedol Threepenny Bit, Cwmbrân, NP44 4SX

  • Bob Dydd Llun: 10am – 3pm

Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl, NP4 6JW

  • Bob Dydd Llun: 8am – 2pm
  • Bob Dydd Mawrth, Mercher, Iau a Gwener: 8am – 5pm
  • Bob Dydd Sadwrn: 8am – 3pm

Diolch i lwyddiant yr apêl y llynedd, cafodd dros 300 o blant ac oedolion ifanc anrhegion, a gwelwyd rhoddion hael yn llifo i mewn gan y gymuned a busnesau lleol.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, "Mae ein cymunedau a'n busnesau wedi bod yn hynod o hael dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi mynd allan o'u ffordd i gefnogi Apêl Siôn Corn.

"Mae'r Nadolig yn gyfnod heriol i'r rheiny sydd ag adnoddau prin. Wrth i'r apêl lansio heddiw, rydym yn gobeithio y bydd yr haelioni hwn yn parhau. Heb os, bydd y rhoddion a'r hamperi hyn yn rhoi gwên ar wynebau ifainc."

Diwygiwyd Diwethaf: 05/11/2024 Nôl i’r Brig