Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Tachwedd 2024
Mae disgwyl i gartref plant preswyl newydd groesawu ei unigolyn ifanc cyntaf wrth iddo agor ei ddrysau yn dilyn gwaith adnewyddu llwyr gan Gartrefi Melin ar gyfer Cyngor Torfaen, a ariannwyd trwy Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.
Bydd y cartref newydd, a gynlluniwyd i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol sy’n meithrin, i blant a phobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod Lleol, yn agor ei ddrysau yn ystod mis Tachwedd.
Datblygwyd byngalo Cwmbrân yn ofalus gan gontractwyr Melin, OTL (One Transformation Ltd) i fodloni anghenion plant y mae angen amgylchedd sefydlog a gofalgar arnynt.
Midway Transitional Solutions fydd yn darparu’r gofal a’r cymorth, a bydd ffocws y gwasanaeth hwn a gomisiynwyd ar hyrwyddo lles emosiynol, datblygiad addysgol a sgiliau bywyd. Mae'r cartref yn cael ei staffio gan dîm o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel, sy’n brofiadol iawn ac sydd wedi ymrwymo i helpu plant i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.
Yn y pendraw, bydd y fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Melin a Chyngor Torfaen yn gartref i dri phlentyn, ac yn creu cartref sy'n efelychu bywyd teuluol yn agos ac yn diwallu anghenion y bobl ifanc sy'n byw yno.
Meddai Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy: "Rydyn ni’n hynod o falch ein bod wedi cwblhau'r gwaith adnewyddu ar yr eiddo hwn yn Nhorfaen, gan ei drawsnewid yn gartref diogel a chroesawgar i bobl ifanc y mae arnynt angen gofal a chymorth. Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu mwy na dim ond brics a morter, gan helpu hefyd i greu sylfaen y gall unigolion adeiladu eu dyfodol arni. Bydd y cydweithio hwn gyda Chyngor Torfaen yn helpu i greu cyfleoedd mwy disglair ar gyfer y rheiny y mae eu hangen arnynt fwyaf."
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'r byngalo yn darparu cartref preswyl mewnol sy'n efelychiad agos o fywyd teuluol ac sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae hefyd yn cefnogi agenda nid-er-elw Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu byw yn eu cymuned.
"Trwy ddatblygu'r cyfleusterau preswyl gorau yn nes at adref, bydd yn gymorth i ni i ddefnyddio llai o leoliadau y tu allan i'r sir sy'n mynd â phlant i ffwrdd o'u rhwydwaith o ffrindiau a theulu. Trwy fuddsoddi yn ein plant, rydyn ni’n buddsoddi yn eu dyfodol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau a chyfleoedd sy'n gosod pob plentyn ar lwybr at fywyd iach, gwerth chweil."