Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Tachwedd 2024
Yr wythnos hon cynhaliodd Cyngor Torfaen gynhadledd ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal ym Mharth Dysgu Torfaen yng Nghwmbrân, i ddathlu cyraeddiadau pobl ifanc sydd wedi symud yn llwyddiannus allan o’r system ofal.
Daw yn ystod Wythnos Genedlaethol Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal, sy'n cael ei dathlu bob blwyddyn, ac mae'n tynnu sylw at gyflawniadau pobl ifanc sy’n gadael gofal ar draws y wlad a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu.
Fe fu tua 30 o bobl ifanc mewn gweithdai lle buont yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac yn taflu syniadau ynghylch ffyrdd o drawsnewid sefyllfaoedd negyddol yn ganlyniadau positif.
Y gweithdai thematig oedd 'Yn fy meddwl'- siarad am feddyliau a theimladau, 'Cymuned' – beth sy'n gwneud i gymuned ffynnu, a 'Blociau adeiladu' a oedd yn canolbwyntio ar y sylfeini y mae eu hangen i adeiladu dyfodol positif.
Roedd y sesiynau hyn yn cynnig llwyfan i bobl ifanc i rannu eu syniadau a chydweithio ar atebion, a bydd y rhain yn cael eu hystyried wrth ddylunio gwasanaethau yn y dyfodol.
Fe'u cefnogwyd gan weithwyr proffesiynol o sectorau gwahanol a staff ymroddgar sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i symud at fod yn oedolion gyda hyder a chydnerthedd.
Meddai Alfie, 17, o Gwmbrân, "Nid yw bod mewn gofal yn beth drwg bob tro, oherwydd mae’n rhoi'r gefnogaeth i ni na fydd pob plentyn yn ei chael. Er enghraifft, fe wnaeth fy nghynghorydd pobl ifanc i fy nghefnogi gyda chyfle i fynd i astudio chwaraeon a hyfforddi BTEC Lefel 3 yng Ngholeg Sefydliad Dinas Caerdydd ac i gael mynediad at fwrsariaethau grantiau dysgu."
Meddai Ellie, sy’n 19 oed ac o Bont-y-pŵl, "Pe na bawn i wedi cael y gefnogaeth a wnes i, fyddwn i ddim wedi cyrraedd lle'r ydw i heddiw a byddwn i mewn lle llawer tywyllach. Dydy bod mewn gofal ddim yn rhywbeth i fod â chywilydd ohono, ac rydw i wedi dysgu bod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl, yn fwy nag eraill, dyna i gyd, ac mae hynny'n iawn. Mae fy ngweithiwr cymdeithasol wedi bod yno i mi trwy bopeth, trwy fy eiliadau hapusaf ac anoddaf, a galla’ i ddim diolch digon iddi."
Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Cyngor Torfaen yn cefnogi 173 o Blant sy'n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy'n Gadael Gofal, ac mae pob un ohonynt wedi cael gofal maeth a/neu ofal preswyl.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, "Mae'r digwyddiad heddiw yn gam pwysig er mwyn i bobl ifanc mewn gofal deimlo eu bod yn cael eu cefnogi trwy’r cyfnod o symud o ofal i fyw eu bywydau eu hunain.
"Fel Cyngor, rydym am wneud ein gorau glas i roi'r dechrau gorau posibl i'r rheiny sy'n gadael gofal ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis, boed hynny gyda chymorth neu'n annibynnol."
"Mae wedi bod yn fraint clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am eu profiadau, a heb os bydd y profiadau hyn yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar ddarpariaeth y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i'r timau sy'n cefnogi ein pobl ifanc – Gwasanaeth Pobl Ifanc Torfaen (16+) a'r Gwasanaeth Ieuenctid."