Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Mai 2024
Debate Mate
Mae tîm o ddisgyblion ysgolion uwchradd wedi ennill eu cystadleuaeth ddadlau gyntaf erioed.
Aeth 12 disgybl o Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, ati i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yng Nghanolfan Christchurch, Casnewydd, fis diwethaf.
Bu’r tîm yn cystadlu yn erbyn Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Whitmore, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf ac Ysgol Plasmawr, a hynny’n rhan o gystadleuaeth Debate Mate.
Rhoddwyd 10 munud i'r cyfranogwyr baratoi dadleuon am benwythnosau tridiau, newid cymdeithasol, ac ymwreiddio newid amgylcheddol mewn cyfraith.
Mae'r cystadlaethau Debate Mate yn deillio o Raglen Seren Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gefnogi disgyblion galluog sy’n derbyn eu haddysg gan y wladwriaeth i wneud cais i brifysgolion blaenllaw.
Dywedodd Gwenan Dickenson, myfyriwr yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw sydd â’i bryd ar astudio cerddoriaeth yn Rhydychen,: “Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfleoedd di-rif i ni, lle gallwn ymestyn a dysgu sgiliau newydd. Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle hwn, er fy mod yn nerfus. Rwy'n falch ohonof fy hun am fwrw ati ac mae'n edrych yn drawiadol iawn ar y CV!”
Ychwanegodd Cody Watkins, myfyriwr Blwyddyn 10 sydd â’i bryd ar astudio meddygaeth a diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt: Mae'r rhaglen hon wedi agor llawer o ddrysau i mi, er ei bod yn fy nhynnu i ffwrdd o wersi ar adegau. Mae'n ategu at fy nghwricwlwm trwy wella fy sgiliau siarad cyhoeddus a fydd yn werthfawr tu hwnt i mi mewn cyfweliadau am swyddi a cheisiadau i brifysgolion.
Dywedodd Sophie Toovey, Pennaeth Saesneg, a oruchwyliodd y prosiect dadlau: “Mae'r rhaglen Debate Mate wedi bod yn hynod fuddiol i wella sgiliau siarad cyhoeddus myfyrwyr yn enwedig ers Covid.
“Nid yw’r cwricwlwm ysgol presennol yn cynnig llawer o gyfle i ddadlau a siarad yn gyhoeddus, ond dyma’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, felly, roeddem yn falch iawn o’r cyfle i gymryd rhan, a byddem wrth ein bodd yn ei weld yn dod yn bartneriaeth yn y dyfodol.”
Mae Debate Mate wedi ymuno mewn partneriaeth â Phrosiect Seren, sy'n ceisio rhoi cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr difreintiedig, drwy ddefnyddio ‘uwch-gwricwlwm’. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr mewn prifysgolion mawr eu bri yn mentora cyfoedion, cymorth gyda chyfweliadau, ceisiadau UCAS, y dewis o gyrsiau a gwahanol lwybrau sydd ar gael i gyrraedd y dyfodol y maen nhw’n ei ddymuno.