Criw ailgylchu yn rhoi cymorth cyntaf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Mai 2024
Helpful crew cropped

Mae menyw wedi diolch i griw ailgylchu o dri dyn a ruthrodd i’w helpu wedi iddi ddisgyn.

Roedd Julie Carson, o Coleridge Green, yng Nghwmbrân, newydd gerdded heibio i’r criw ar eu rownd pan faglodd a disgyn ar ei hwyneb ar y stryd.

Daeth Ben Lawrence, Gareth Miller a Morgan McAnsh i’w helpu o fewn eiliadau, gan lanhau ei briwiau ac aros gyda hi nes i aelod o’i theulu gyrraedd.

Mae Julie’n gweithio fel gweinyddydd i Heddlu Gwent a, meddai: "Roedd hi tua 8.30am ac roeddwn i ar fy ffordd i gwrdd â mam ar gornel Shakespeare Road. Fe weles i’r criw a dweud helô – maen nhw’n gwneud gwaith anodd, ond maen nhw’n  gwenu ac yn codi llaw bob tro. 

"Y peth nesaf oeddwn i’n gwybod roeddwn i’n gorwedd wyneb i lawr ar y llawr. Gallwn i weld bod fy mag ar yr heol a bod fy sbectol wedi disgyn i ffwrdd ond cyn i mi hyd yn oed feddwl am deimlo cywilydd, roedden nhw yno nesaf i fi. 

"Aeth un i godi fy mag a sbectol, aeth un i nôl pecyn cymorth cyntaf o’r tryc, a daeth un arall i fy helpu i sefyll i fyny a fy helpu i gael fy nghydbwysedd yn ôl.

"Roedd gen i friwiau ar fy ngên, fy nwylo a fy wyneb ac felly fe fuon nhw’n fy helpu i lanhau’r gwaed, ceisio tynnu’r cerrig mân oddi arnyn nhw a rhoi plasteri arnyn nhw.

"Aeth un ohonyn nhw i ddod o hyd i fy mam, a dod â hi yn ôl ata’ i ac yna fy helpu i mewn i’r car. Alla’ i ddim diolch ddigon i’r criw. Nid dim ond estyn llaw wnaethon nhw ond aros gyda fi a gofalu amdana’ i a byddaf yn fythol ddiolchgar iddyn nhw am hynny."

Mae gan Julie broblem gyda’i phen-glin a dydy hi ddim yn gwybod beth achosodd iddi ddisgyn ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf, ond fe fydd Tîm Priffyrdd y Cyngor yn archwilio’r palmant.

Mae ganddi friwiau o hyd ar ôl disgyn ond doedd dim angen iddi weld doctor.

Meddai Ben, a aeth â blodau i Julie ddydd Gwener gyda Gareth a Morgan: "Fe welon ni Julie yn cerdded heibio i ni, ac yna wrth droi’r gornel, fe sylwodd Gareth ei bod hi ar y llawr.

"Fe neidio ni allan a rhoi cymorth cyntaf sylfaenol iddi. Ei thrin hi fel bydden ni wedi eisiau cael ein trin ein hunain, dyna i gyd." 

Meddai Mark Thomas, Dirprwy Brif Swyddog Yr Economi a’r Amgylchedd: "Mae Ben, Gareth a Morgan yn aelodau gwerthfawr o’n criw ailgylchu ac rydyn ni’n falch iawn o’r ffordd wnaethon nhw ymateb mor gyflym a’r gofal a’r sylw a roddwyd i Julie.

"Rwy’n falch nad oedd Julie wedi ei hanafu’n rhy ddrwg a dymunwn yn dda iddi wrth iddi wella."

(Llun C-D: Morgan McAnsh, Gareth Miller, Julie Carson, Ben Lawrence)

Diwygiwyd Diwethaf: 14/01/2025 Nôl i’r Brig