Gwersi diogelwch ar sgwter i blant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Mai 2024
scoot6

Mae tua 80 o blant wedi cael gwersi ar sut i ddefnyddio’u sgwter yn ddiogel, yn rhan o Wersylloedd Chwarae a Gweithgareddau Gwasanaeth Chwarae Torfaen dros wyliau’r hanner tymor. 

Cawsant ddysgu sut i reidio’u sgwteri’n gywir a sut i fod yn ddiogel ar balmentydd, diolch i fenter ar  y cyd â thîm Teithio Llesol y Cyngor.

Cyflwynwyd y sesiynau gan ScootFit, a roddodd hyfforddiant hefyd i 25 gweithiwr chwarae a fydd yn cynnal gwersi diogelwch ar sgwter mewn Gwersylloedd Bwyd a Hwyl dros wyliau’r haf.

Ar y cyfan, mae mwy na 750 o blant wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau gwahanol a drefnwyd gan y Gwasanaeth Chwarae gan gynnwys wyth Gwersyll Chwarae a Gweithgareddau, Gwersylloedd Chwarae a Llesiant, Sesiynau Chwarae a Seibiant a Sesiwn Chwarae a Dihangfa.

Roedd 140 aelod o staff a gwirfoddolwr yn rhedeg y gwersylloedd, gan gynnwys 22 gwirfoddolwr newydd a gwblhaodd ddeuddydd o hyfforddiant i ennill cymhwyster achrededig mewn gwaith chwarae.  

Ddydd Iau, fe fu Uchel Siryf Gwent, Helen Mifflin, yn ymweld â rhai o’r plant a oedd yn cymryd rhan yn y sesiynau yn Stadiwm Cwmbrân, Gwersyll Llesiant Nant Celyn, Gwersyll Llesiant Blenheim, Victory Church a Gwersyll Chwarae a Seibiant Bryn Eithin.

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaeth Chwarae: “Mae ein Gwasanaeth Chwarae yn enwog am y ffordd ragorol gwasanaethau chwarae a seibiant ar draws y Fwrdeistref. 

"Mae menter ScootFit yn un o’r syniadau gwych niferus i sicrhau bod plant yn cael dewis eang o weithgareddau chwarae."

Bydd manylion rhaglen chwarae’r haf yn cael eu datgelu’r wythnos nesaf. Am ragor o wybodaeth, cadwch lygad ar dudalen Facebook Chwarae Torfaen – Chwarae Torfaen, Torfaen Play neu wefan y Cyngor.  Neu anfonwch neges e-bost i’r Gwasanaeth Chwarae - torfaenplay@torfaen.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei wneud i gefnogi a hyrwyddo diogelwch ar feic ac ar sgwter yn Nhorfaen, ewch i’n tudalennau teithio llesol.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2024 Nôl i’r Brig