Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Mai 2024
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Torfaen heddiw, cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i gabinet, pwyllgorau a chyrff allanol y cyngor am y flwyddyn i ddod.
Gweithred gyntaf y CCB oedd penodi Aelod Llywyddol newydd a Dirprwy Aelod Llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/5.
Ail-etholwyd y Cynghorydd Rose Seabourne yn Aelod Llywyddol y cyngor a chafodd y Cynghorydd Stuart Ashley ei ethol yn Ddirprwy Aelod Llywyddol.
Yn dilyn enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, derbyniodd y Cynghorydd Anthony Hunt y mwyafrif o bleidleisio felly chafodd ei ailethol. Bydd yr Arweinydd hefyd yn gyfrifol am gyllid strategol a gwasanaethau ariannol.
Cafodd y Cynghorydd Richard Clark ei ail-ethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac ef fydd yn gyfrifol am bortffolio Plant, Teuluoedd ac Addysg.
Cytunwyd y bydd portffolio'r Amgylchedd yn cael ei rannu'n bortffolio'r Amgylchedd a Gwastraff a Chynaliadwyedd ar wahân.
Dyma’r rhestr lawn o benodiadau i’r cabinet:
- Aelod Gweithredol, Gwasanaethau Oedolion a Thai – Y Cyng. David Daniels
- Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg – Y Cyng. Richard Clark
- Aelod Gweithredol, Cymunedau – Y Cyng. Fiona Cross
- Aelod Gweithredol, Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cyng. Peter Jones
- Aelod Gweithredol, yr Amgylchedd – Y Cyng. Mandy Owen
- Aelod Gweithredol, Economi, Sgiliau ac Adfywio - Y Cyng. Joanne Gauden
- Aelod Gweithredol, Gwastraff a Chynaliadwyedd – Cyng Sue Morgan
- Cytunwyd hefyd y dylid ailenwi'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn unol â chyfarwyddiaethau’r cyngor.
Etholwyd cadeiryddion y pwyllgorau fel a ganlyn:
- Pwyllgor TaCh yr Economi a'r Amgylchedd – Y Cyng. Stuart Ashley
- Pwyllgor TaCh Addysg– Y Cyng. Rose Seabourne
- Pwyllgor TaCh Oedolion a Chymunedau – Y Cyng. Mark Jones
- Pwyllgor TaCh Plant a Theuluoedd – Y Cyng. Janet Jones
- Pwyllgor TaCh Adnoddau Trawsbynciol a Materion Busnes – Y Cyng. David Williams
Etholwyd cadeiryddion y pwyllgorau statudol fel a ganlyn:
- Y Pwyllgor Cynllunio – Y Cyng. Norma Parrish
- Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cyng. Steven Evans
- Pwyllgor Pensiynau – Y Cyng. Nathan Yeowell
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cyng. Ron Burnett
Wrth dderbyn ei benodiad yn Arweinydd Cyngor Torfaen, dywedodd y Cyng. Anthony Hunt: "Yn yr un modd â chynghorau ledled y DU, rydym wedi goresgyn heriau yn flaenorol ac mae heriau enfawr o'n blaenau.
"Rwy’n falch iawn o’r ffordd yr ydym wedi mynd i’r afael â’r rhain eleni ac yn y blynyddoedd blaenorol gyda ffocws ar gymunedau, ymyrraeth gynnar a gwelliannau a ffocws di-baid yn y flwyddyn ddiwethaf ar ddata a pherfformiad.
"Rydym wedi gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau fel ysgolion gymaint ag y gallwn, ac rwy’n falch mai yn Nhorfaen oedd y cynnydd isaf, neu gynnydd cyfatebol yn nhreth y cyngor yng Nghymru gyfan dros y tair blynedd diwethaf. Credaf fod angen i ni barhau i arloesi i fod mor effeithlon ag y gallwn ac i flaenoriaethu'r blaenoriaethau corfforaethol sydd mor bwysig i ni."
Dyrannwyd y 90 sedd ar wahanol bwyllgorau ac is-bwyllgorau yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol. Dyrannwyd 71 o seddi i’r Grŵp Llafur, sef y mwyafrif. Dyrannwyd 12 sedd i’r Grŵp Annibynnol a 7 sedd i Grŵp Annibynnol Torfaen.
Cymeradwyodd y Cyngor yr Aelodau Gweithredol i'r swyddi hyrwyddo canlynol:
- Hyrwyddwr o Blaid Pobl Hŷn - Y Cyng. David Daniels, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Oedolion a Thai
- Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Y Cyng. Peter Jones, Aelod Gweithredol Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau
- Hyrwyddwr Gwrth-dlodi – Y Cyng. Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor
- Hyrwyddwr Pobl Ifanc - Y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg
Penodwyd hefyd yr Aelodau Eiriolwyr a ganlyn:
- Hyrwyddwr Hyfforddi a Datblygu Aelodau – Y Cyng. Ron Burnett
- Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog – Y Cyng. Gaynor James
- Hyrwyddwr Gofalwyr – Y Cyng. David Daniels
- Hyrwyddwr Cynaliadwyedd – Y Cyng. Stuart Ashley
- Pencampwr Treftadaeth y Byd – Y Cyng. Janet Jones
- Clefyd Motor Niwron (MND) – Y Cyng. Giles Davies
- Hyrwyddwr Dementia – Y Cyng. Mandy Owen
- Hyrwyddwr y Gymuned Sipsiwn Teithwyr – Y Cyng. Sue Malson
- Hyrwyddwr Iechyd Meddwl – Y Cyng. Nick Byrne
Aeth y cyngor ati hefyd i enwebu i gyrff allanol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen; Tai Cymunedol Bron Afon a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(Llun: Cyng Fiona Cross; Cyng David Daniels; Cyng Anthony Hunt; Cyng Richard Clark; Cyng Sue Morgan; Cyng Joanne Gauden)