Wedi ei bostio ar Dydd Llun 13 Mai 2024
Mae arolygwyr Estyn wedi canmol ysgol uwchradd am ei chynllun i wobrwyo presenoldeb, sydd wedi helpu i gynyddu cyfraddau presenoldeb.
Aeth arolygwyr ati i ymweld ag Ysgol Gorllewin Mynwy, ym Mhont-y-pŵl, fis diwethaf, fel rhan o'i hamserlen flynyddol i arolygu ysgolion.
Canfu eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, fod disgyblion yn gwerthfawrogi'r system, sy'n golygu eu bod yn ennill pwyntiau am bresenoldeb 100 y cant bob wythnos i'w wario ar ystod o weithgareddau allgyrsiol a phethau pleserus.
Canfu bod y cynllun, sydd hefyd yn gwobrwyo ymddygiad cadarnhaol, wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau presenoldeb, sydd wedi cynyddu bron i dri y cant ar gyfartaledd ers mis Medi.
Canmolodd yr arolygwyr yr ysgol hefyd am greu amgylchedd cefnogol sy'n helpu disgyblion i ffynnu, a defnyddio ystod o strategaethau i godi dyheadau disgyblion.
Yn ôl yr adroddiad: "Mae disgyblion yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd sydd ganddynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, datblygu eu sgiliau arwain a chwarae rhan weithredol ym mywyd yr ysgol.
"Mae arweinwyr wedi llwyddo i wneud nifer o welliannau i waith yr ysgol. Maent wedi llwyddo i hyrwyddo diwylliant o ddiogelu, wedi gwella cyfraddau presenoldeb yn dda a defnyddio ystod o strategaethau buddiol i leihau effaith tlodi ar ddeilliannau disgyblion."
Canfu’r arolygwyr bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn yr ysgol yn "gwneud cynnydd cadarn wrth ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau", yn cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol, Addysg,: "Rwy'n falch iawn bod Estyn wedi canmol Ysgol Gorllewin Mynwy am ei dull arloesol o wella presenoldeb yn yr ysgol.
"Mae cyfraddau presenoldeb rhagorol yn hanfodol os yw disgyblion am fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwych sydd gan ysgolion i'w cynnig, ac mae'n amlwg bod llawer ar gael i ddisgyblion yn Ysgol Gorllewin Mynwy.
"Mae helpu pob disgybl i gyflawni ei botensial yn rhan allweddol o'n hymgyrch Ddim Mewn Colli Mas ac mae'n un o amcanion lles allweddol ein Cynllun Sirol."
Gwnaeth yr arolygwyr dri argymhelliad: sicrhau bod yr addysgu yn herio disgyblion o bob gallu; darparu ar gyfer datblygu sgiliau blaengar a sicrhau bod prosesau hunanwerthuso yn gadarn ac yn gywir.
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am bolisi’r cyngor ar bresenoldeb mewn ysgolion.