Wedi ei bostio ar Dydd Llun 13 Mai 2024
Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn, mae Maethu Cymru Torfaen yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc lleol sydd mewn angen.
Canfu ymchwil diweddar gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, fod pobl yn aml yn gohirio gwneud cais i ddod yn ofalwr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiadau cywir.
Mewn llyfr coginio newydd – Gall Pawb Gynnig Rhywbeth– Mae Maethu Cymru yn amlygu'r pethau syml y gall gofalwr eu cynnig – fel y sefydlogrwydd o gael pryd bwyd rheolaidd, teulu o amgylch y bwrdd, a chreu ffefrynnau bwyd newydd.
Mae Gall Pawb Gynnig Rhywbeth yn cynnwys dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog yn cynnwys Wynne Evans, enillydd MasterChef; Poppy O’Toole, Beirniad Young MasterChef, a Fatima Whitbread, yr athletwr Olympaidd a'r ymgyrchydd gofal maeth a dreuliodd cyfnod yn derbyn gofal.
Mae cyn-gystadleuydd Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r comedïwr Kiri Pritchard Mclean hefyd wedi ychwanegu ryseitiau – gan gyfeirio at eu profiadau personol fel gofalwyr maeth.
Ac mae cyfraniadau gan bobl ifanc sydd wedi derbyn gofal, fel Sophia Warner, a ddarluniodd y llyfr ac a ysgrifennodd y rhagair.
Dywedodd: “Pan oeddwn i'n iau, rwy’n cofio holi fy mam yn arw am darddiad y bwyd yr oedd hi’n ei weini, gan fynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, y man sy’n annwyl i mi, lle dreuliais fy mhlentyndod. Ysgrifennais ‘Brecon Bolognese’ ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.
“Mae lle arbennig iawn yn fy nghalon i’r rysáit hon am mai hwn oedd fy mhryd cyntaf pan symudais i mewn i fy nghartref maeth. Soniais fod fy mam fiolegol yn arfer ei goginio ac aeth fy mam faeth ati i’w baratoi â chariad i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais ymdeimlad o berthyn a chynhesrwydd, a theimlais y croeso gwresog.”
I lansio'r llyfr, mae Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio yng Nghaerdydd i bobl ifanc sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal.
Bydd y llyfr coginio yn cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru a gellir lawr lwytho fersiwn ddigidol o: fosterwales.gov.wales/bringsomethingtothetable
Os ydych chi'n meddwl y gallech chi gynnig rhywbeth trwy ddod yn ofalwr maeth yn awdurdod lleol Torfaen, mynnwch wybod mwy a chofrestru’ch diddordeb drwy rhoi clic ar www.fosterwales.torfaen.gov.uk