Gadewch I Bethau Dyfu dros yr haf

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Mai 2024
Let it grow butterflies

Mae trigolion yn cael eu hannog i gefnogi Mai Di-dor a pheidio â thorri eu lawntiau y mis hwn, i helpu bioamrywiaeth a thaclo newid hinsawdd.

Neu gallech fynd gam ymhellach a chefnogi ymgyrch Gadewch Iddo Dyfu Cyngor Torfaen drwy adael rhannau o'ch gardd i dyfu tan fis Hydref.

Mae'n 10 mlynedd ers i'r Cyngor gyflwyno ei raglen rheoli glaswelltir yn gynaliadwy. Mae’r rhaglen yn nodi ardaloedd o dir lle mae llai o dorri glaswellt rhwng mis Ebrill a mis Hydref er mwyn i’r glaswellt a’r blodau gwyllt beillio dros yr haf.

Mae grŵp Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen nawr yn bwriadu cynnal astudiaeth i weld pa effaith y mae'r rhaglen wedi'i chael ar niferoedd pili-palaod yn lleol.

Dywedodd Veronika Brannovic, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: "Erbyn hyn mae gennym 200 o ardaloedd sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy ac rydyn ni’n gwybod eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar boblogaethau pryfed lleol.

"Y llynedd, fe wnaethon ni ddarganfod pryfed cop picwn wrth ymyl y ffordd ym Mhontnewynydd ac yng Ngwarchodfa Natur Leol Henllys, a dyma’r pellaf i’r gogledd y maen nhw wedi cael eu cofnodi erioed. Rydyn ni hefyd wedi gweld amrywiaeth ehangach o bili-palaod gan gynnwys y Pili-Pala Gwyn Blaen Oren, Gwibwyr Bach, Gweirlöynnod Cleisiog a Mentyll Paun.

"Rydyn ni nawr yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ni i gyfrif pili-palaod i weld sut mae'r rhaglen yn helpu niferoedd lleol."

Mae ymchwil gan elusen Butterfly Conservation yn awgrymu y gall gadael i laswellt dyfu'n hir gynyddu nifer y pili-palaod hyd at 93 y cant. Os hoffech chi helpu i gyfrif pili-palaod, cysylltwch â veronika.brannovic@torfaen.gov.uk

Mae taclo’r argyfwng hinsawdd a natur yn un o amcanion llesiant y Cyngor. Rhagor o wybodaeth am y prosiect glaswelltir cynaliadwy

Meddia’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae gadael i flodau gwyllt mewn lawntiau dyfu yn gynnar yn yr haf yn wych i bryfed sy’n peillio a bywyd gwyllt arall ac mae'n cynyddu amrywiaeth y planhigion, sy'n helpu i dynnu carbon o'r atmosffer – elfen sy’n allweddol wrth leihau newid hinsawdd."

I gymryd rhan yn Mai Di-dor, cofrestrwch ar wefan Plantlife. Cofrestru ar gyfer Mai Di-dor 

Gallwch rannu ffotograffau o'r blodau gwyllt a'r bywyd gwyllt yn eich lawntiau sydd heb eu torri ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #MeithrinNaturTorfaen.

Credyd Llun: (Ch-Dd) Gwibiwr Bach, Gweirlöyn Cleisiog, Pili-Pala Gwyn Blaen Oren a Mantell Paun gan Andy Karran, o Ymddiriedolaeth Natur Gwent. 

Diwygiwyd Diwethaf: 01/05/2024 Nôl i’r Brig