Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Mawrth 2024
Dwy ysgol gynradd yw’r diweddaraf i gefnogi ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas y Cyngor.
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Coed Eva, yng Nghwmbrân, ac Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, wedi cymryd rhan mewn ffilm newydd sy’n annog teuluoedd i osgoi cymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol. Gwyliwch y fideo yma
Meddai Paul Keane, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Cynradd Ffordd Blenheim a Choed Eva: "Maen ein dysgwyr wedi mwynhau’r profiad o greu’r ffilm yn fawr iawn ac mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld y canlyniad - ac, yn fwy pwysig, yr effaith y bydd y ffilm yn ei chael.
"Mae’r ffilm yn un ysgafn, ond allai’r neges ddim fod yn fwy pwysig – rydyn ni eisiau gweld pob un o’n plant yn yr ysgol bob dydd, fel na fyddan nhw’n colli unrhyw beth.”
Daw hyn wrth i ffigurau diweddar ddatgelu bod presenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen, ar gyfartaledd, wedi codi o 88.7 y cant ym mis Chwefror 2023 i 90.4 y cant ym mis Chwefror eleni.
Mae hyn yn golygu bod lefelau presenoldeb ar draws y Fwrdeistref, sydd wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru, bellach yn cydymffurfio â’r cyfartaledd i Gymru.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clarke, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae’n wych clywed bod cyfraddau presenoldeb yn gwella, ac mae hyn yn ganlyniad i waith caled staff yr ysgolion, y gwasanaeth addysg a theuluoedd.
“Rydyn ni’n deall bod gwyliau yn bwysig i deuluoedd, ond mae yna 13 o wythnosau o wyliau ysgol yn barod yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae tynnu plant allan o’r ysgol am wythnos neu ddwy yn ychwanegol yn gallu cael effaith sylweddol ar eu presenoldeb, ac, yn sgil hynny, ar eu haddysg."
Lansiwyd ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas y Cyngor ym mis Tachwedd 2022 a’i nod yw dathlu’r buddion amrywiol sydd i’w cael wrth fynd i’r ysgol bob dydd.
Mae bod yn absennol o’r ysgol am 10 niwrnod mewn blwyddyn academaidd gywerth â phresenoldeb o 94.7%, a gallai hin rwystro cynnydd plentyn wrth ddysgu.
Cofnodir absenoldeb anawdurdodedig pan na fydd y Pennaeth yn teimlo bod y rheswm a roddwyd dros yr absenoldeb yn dderbyniol.
Gellir cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig o £60 pan fydd o leiaf 10 sesiwn anawdurdodedig neu bum niwrnod ysgol, pan fydd plentyn yn hwyr yn gyson a phan fydd rhieni’n gwrthod ymgysylltu â’r ysgol i wella lefelau presenoldeb eu plentyn yn yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth am bresenoldeb yn yr ysgol a’r cymorth sydd ar gael, ewch i wefan Cyngor Torfaen: www.torfaen.gov.uk