Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Mawrth 2024
Fe fydd criwiau’n gweithio dros wyliau banc y Pasg eleni, ac felly ni fydd unrhyw newid i’r diwrnodau casglu.
Rhowch eich deunydd i’w hailgylchu a’ch gwastraff allan ar eich diwrnod casglu arferol.
Bydd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor:
Dydd Gwener 29 Mawrth 10am – 3.45pm
Dydd Sadwrn 30 Mawrth 10am – 3.45pm
Dydd Sul 31 Mawrth 8am – 5.45pm (Oriau agor yr haf yn cychwyn)
Dydd Llun 1 Ebrill 8am – 5.45pm
Fe fydd siop ailddefnyddio'r Steelhouse ar agor yn ôl yr arfer rhwng 9.30am a 4.30pm bob dydd.
Fe fydd gwasanaeth ailgylchu dodrefn Circulate Furniture Recycling ar gau ddydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill. Fe fydd busnes yn ôl yr arfer ddydd Mawrth 2 Ebrill.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Nhorfaen, neu i gael gwybod ar ba ddiwrnod y mae’ch deunyddiau wedi’u hailgylchu yn cael eu casglu, ewch i http://www.torfaen.gov.uk/ailgylchu