Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26 Mehefin 2024
Mae disgyblion a staff yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi cael gwobr ddwbl i gydnabod eu gwaith cymunedol.
Maen nhw wedi cael gwobrau efydd ac arian gan y Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol, elusen sy’n cefnogi ysgolion i adeiladu partneriaethau effeithiol gyda rhieni, teuluoedd a’r gymuned.
Derbynion nhw’r gwobrau mewn digwyddiad arbennig yn yr ysgol ddydd Llun i ddathlu eu gwaith ymgysylltiad cymunedol, gan gynnwys gwirfoddoli, perfformiadau drama a cherddoriaeth a chefnogaeth i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd..
Daw hyn wrth i waith ar gyfleuster cymunedol newydd symud tuag at agor fis Medi.
Dywedodd Kath Ayling, Swyddog Cyswllt Teuluoedd Ysgol Uwchradd Cwmbrân: "Rydym wrth ein bodd o gael y gwobrau. Mae’n bwysig iawn i ni gan ein bod ni’n credu’n wirioneddol bod Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn ymgorffori pob dim mae’r gwobrau’n cynrychioli.
"Mae yna hen ddywediad bod angen pentref i fagu plentyn ac rwy’n credu hynny i’r byw. Mae’r gwobrau yma’n diolch i’n disgyblion anhygoel, ein staff am eu hannog a’u cefnogi, ac i’r gymuned am ein cefnogi."
Dywedodd y Pennaeth, Matthew Sims: "Rydym ni am gysylltu â chymaint o’r gymuned ehangach ag y gallwn. Nid dim ond ein hysgol ni yw hon, mae’n ased i’r gymuned gyfan.
"Mae annog disgyblion i fod yn rhan o, a gwasanaethu eu cymuned leol, nid yn unig yn cefnogi’r rheiny o’n cwmpas, ond mae hefyd yn eu helpu i ddatblygu amrywiaeth fwy eang o sgiliau a phrofiadau."
Canmolodd sylfaenydd yr elusen, Sue Davies, yr ysgol am ennill y ddwy wobr, gan ychwanegu: "Mae hon yn ysgol anhygoel sy’n rhoi gwerth ar ymgysylltiad cymunedol.
Rydym yn cynnal y gynhadledd ymgysylltiad cymunedol pobl ifanc gyntaf erioed yn Abertawe fis nesaf ac rwy’n falch y bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd Cwmbrân ymhlith y rheiny sy’n cymryd rhan."
Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion drama a cherddoriaeth yr ysgol, yn ogystal â Chôr Byddar Cwmbrân, sydd wedi ei leoli yn yr ysgol.
Nod y Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol yw ceisio cefnogi cymunedau i rymuso pobl i ddatblygu uchelgais ac annog gwytnwch a dysgu gydol oes.