Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024
Mae dros 300 o ddisgyblion blwyddyn chwech o ysgolion cynradd Cymraeg ledled Torfaen wedi cynnal digwyddiad cyntaf ar y cyd i ddathlu symud i’r ysgol uwchradd.
Roedd y gyngerdd yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl yn cynnwys perfformiadau gan ysgolion unigol a oedd yn cynnwys samba o Frasil, drymio Taiko o Siapan a dawnsio gwerin a chlocsio traddodiadol o Gymru.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd perfformiad gan Up Beat Music and Arts, gyda disgyblion oedd wedi cymryd rhan mewn prosiect chwe wythnos gyda nhw yn y cyfnod cyn y gyngerdd.
Cafodd y disgyblion a rhieni gyfle i gwrdd ag athrawon a disgyblion o Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, ble bydd disgyblion blwyddyn chwech yn dechrau fis Medi.
Mynegodd Harrison, disgybl blwyddyn 6 o Ysgol Bro Helyg, ei fwynhad gan ddweud: "Y peth gorau oedd dysgu martsio a chwarae’r drymiau ar yr un pryd. Mae’n fwy caled nag y mae’n ymddangos.”
Dywedodd Ffion, o Ysgol Bryn Onnen, “Roedd yn swnio’n wych yn y neuadd pan roedd pawb yn drymio gyda’i gilydd.”
Dywedodd y Pennaeth, Catrin Evans: "Rydym yn dod at ein gilydd yn rheolaidd fel athrawon grŵp o ysgolion cynradd Cymraeg, ond dyma’r tro cyntaf i ni ddod at ein gilydd fel cymuned Gymraeg.
"Rydym yn ymrwymedig at undod, twf a chyfoethogi diwylliannol i’n disgyblion i gyd, ac rydym ni wrthi eisoes yn trefnu cyngerdd arall ar gyfer y Nadolig."
Ymhlith yr ysgolion eraill a gymerodd ran oedd Ysgol Panteg ac Ysgol Gymraeg Y Fenni, yn ogystal â disgyblion blwyddyn 7 o Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Mae ymgyrch #DdimYnoColliAllan y cyngor yn ceisio amlygu manteision mynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Mae’r gyngerdd yn un o’r ffyrdd o roi profiad dysgu amrywiol i sicrhau bod disgyblion yn mwynhau dod i’r ysgol.
Gall rhieni sy’n ystyried danfon eu plant o ysgol Saesneg i Ysgol Gymraeg, wneud hynny trwy wneud cais am le yng Ngharreg Lam.
Uned drochi hwyr yn Ysgol Panteg ym Mhont-y-pŵl yw Carreg Lam, ac mae’n cefnogi dysgwyr rhwng 7 a 11 oed i fynd i ddysg gyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach.
Mae disgyblion yn cael eu haddysgu dros gyfnod dwys o ryw 12 wythnos cyn pontio i leoliad prif ffrwd Cymraeg yn Nhorfaen. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.carreg-lam.com/