Wythnos y Lluoedd Arfog

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 24 Mehefin 2024
RBL

Heddiw, cynhaliodd cynrychiolwyr y gymuned ac aelodau Cyngor Torfaen seremoni codi’r faner yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl i nodi dechrau wythnos y Lluoedd Arfog

Digwyddodd y seremoni, a gynhaliwyd i anrhydeddu aelodau o’r lluoedd, nawr a chynt, am 9:30am gyda chynrychiolwyr lleol a chyn-filwyr.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Tad Philip Godsell, Deon y Rheithoriaeth ac Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Canol Torfaen, gyda darlleniadau gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Jacob Simmonds a Mollie Watkins.

Hefyd, cynhaliwyd gwasanaeth bach gydag aelodau Lleng Brydeinig Gwent, i ddadorchuddio’u gwobr Rhyddfraint y Fwrdeistref yn y Ganolfan Ddinesig.

Mae’r sgrôl wedi ei fframio bellach i’w gweld wrth ymyl Siambr y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig.

Roedd Rhyddfraint y Fwrdeistref, a roddwyd ar 22 Mehefin 2021 gan bum cyngor ardal Gwent, yn cydnabod ymrwymiad y Lleng ers canrif a mwy i gefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mae nifer fach o ddigwyddiadau ledled Torfaen i nodi wythnos y lluoedd arfog, cyn y gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.armedforcesday.org.uk/
Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2024 Nôl i’r Brig