Ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio?

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024
voter-id-tile_crop

Bydd Etholiad Seneddol y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau 4 Gorffennaf.

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi wneud hynny erbyn hanner nos ddydd Mawrth 18 Mehefin. Cofrestru i bleidleisio 

Os ydych eisoes wedi cofrestru, nid oes angen i chi gofrestru eto. I wirio a ydych wedi cofrestru, ffoniwch ein Tîm Etholiadau ar 01495 762200.

Rhaid eich bod chi’n 18 oed i bleidleisio yn etholiadau seneddol y DU.

Fel etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fis diwethaf, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.

Os nad oes gennych ID ffotograffig sy’n dderbyniol, gallwch gyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim, ar-lein. Mae cymorth ar gael yn eich llyfrgell leol.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais erbyn 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin er mwyn i chi gael eich tystysgrif mewn pryd ar gyfer yr etholiad.

Mae’r tystysgrifau'n ddilys am 10 mlynedd, felly os wnaethoch chi wneud cais am dystysgrif i bleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gallwch ddefnyddio'r un dystysgrif ar gyfer yr Etholiad Seneddol.

Rhagor o wybodaeth am ID ffotograffig neu wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr

Gwyliwch ein fideo am bleidleisio gydag ID ffotograffig

Mae gennych hyd nes 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin i wneud cais am bleidlais drwy’r post.  

Bydd y rheiny sy’n pleidleisio drwy’r post yn dechrau cael eu papurau pleidleisio o ddydd Iau 20 Mehefin.

Os ydych yn pleidleisio drwy'r post, mae'r rheolau ynghylch mynd â nhw i swyddfeydd y Cyngor wedi newid.

Gallwch nawr gyflwyno uchafswm o chwe phleidlais drwy’r post, gan gynnwys eich un chi, yn adeiladau'r Cyngor a rhaid i chi lenwi ffurflen Dychwelyd Dogfennau Pleidleisio Drwy’r Post.

Bydd unrhyw bleidleisiau drwy’r post sy'n cael eu postio trwy flychau llythyrau adeiladau’r Cyngor, neu a adawyd yn adeiladau'r Cyngor, heb i'r ffurflen gael ei chwblhau, yn cael eu gwrthod.

Darganfyddwch pwy sy'n sefyll yn Etholiad Seneddol y DU yn Nhorfaen

Os oes angen i chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, y dyddiad cau yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.

Os oes newid sydyn yn eich amgylchiadau ar ôl y dyddiad cau, er enghraifft damwain neu salwch, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy frys hyd nes 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau ar 01495 762200.

Mae'r newidiadau i’r drefn bleidleisio yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn unig. Does dim angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd nac mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/06/2024 Nôl i’r Brig