Rhaglen ryngwladol i ysgolion wedi bwrw'i gwreiddiau

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024
Empathy 4

Mae sylfaenydd rhaglen ysgol gynradd ryngwladol wedi canmol ysgol leol.

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Mair a’r Angylion, yng Nghwmbrân, wedi bod yn addysgu gwersi Roots of Empathy ym Mlynyddoedd 3 a 4 er 2019.

Mae'r fenter yn helpu disgyblion i ddysgu am emosiynau ac empathi drwy adael iddynt ddilyn datblygiad baban, rhwng pedair ac 11 mis oed. Mae'n caniatáu iddynt dreulio amser gyda'r babi yn eu hystafell ddosbarth a gofyn cwestiynau i'r rhiant.

Yn gynharach eleni, teithiodd y sylfaenydd a'r entrepreneur cymdeithasol Mary Gordon o Ganada i ymweld â'r ysgol i ddarganfod sut roedd y rhaglen yn helpu plant.

Meddai: "Mae hon yn ysgol arbennig iawn ac mae'r plant mor garedig â'i gilydd. Nid oes unrhyw blentyn yn cael ei adael allan ac maen nhw i gyd yn gweithio ac yn chwarae gyda'i gilydd yn hyfryd. Fe ddylech chi fod yn falch iawn."

Dywedodd y Pennaeth Ceri Prosser: "Trwy Roots of Empathy mae ein plant yn dysgu ein bod ni i gyd wedi cael ein gwneud yn yr un ffordd ond ein bod ni’n wahanol a bod angen dathlu hynny.

"Maen nhw'n ehangu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o emosiynau gwahanol a sut mae pobl yn profi'r rhain yn wahanol. Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi'r eirfa iddynt i fynegi eu hunain a'u teimladau mewn ffordd briodol.

"Mae llawer o'r babanod yn mynd ymlaen i fod yn ddisgyblion yn ein hysgol ni ac mae hynny’n arbennig iawn gan fod y plant hŷn yn aml yn eu hadnabod."

Mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus, ac mae'r ysgol nawr yn bwriadu lansio Seeds of Empathy i ddisgyblion iau ym mis Medi.

Meddai Toby, disgybl ym Mlwyddyn 3: "Mae'n ein dysgu sut i feddwl am sut oedden ni pan oedden ni'n ifanc a sut i fod yn garedig wrth ein gilydd. Mae'n gwneud i ni ymlacio pan fydd Miss yn darllen y stori i ni. Rydyn ni wedi dysgu edrych ar wynebau pobl i wybod sut y gallen nhw fod yn teimlo."

Meddai Harriet: "Dwi'n mwynhau'r wers oherwydd mae gwylio'r babi yn tyfu mor ddiddorol. Rydyn ni wedi dysgu am gerrig milltir ac rydyn ni i gyd yn gweithio'n galed i'w cyrraedd. Mae help a chefnogaeth yn bwysig er mwyn cyrraedd cerrig milltir."

Ychwanegodd Eden: "Rydyn ni wedi dysgu sut mae babanod yn datblygu a phethau sy'n ddiogel ac yn anniogel i blant. Rydyn ni wedi dysgu bod caredigrwydd yn bwysig a bod cariad yn tyfu ein calonnau a'n meddyliau."

Mae Roots of Empathy yn un ffordd sydd gan yr ysgol i ddarparu profiad dysgu amrywiol i sicrhau bod disgyblion yn mwynhau mynychu'r ysgol.

Ewch i'n gwefan am wybodaeth am bolisi presenoldeb yn yr ysgol #DdimMewnColliMas y Cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/06/2024 Nôl i’r Brig