Lansio arddangosfa Wanderlust

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Mehefin 2024
Wanderlust

Mae arddangosfa newydd a grëwyd gan blant i ddathlu eu treftadaeth a'u diwylliant wedi cael ei dadorchuddio'r wythnos hon.

Cofnododd disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr o Ysgol Gorllewin Mynwy eu bywydau trwy ffotograffiaeth a barddoniaeth ar gyfer Arddangosfa Wanderlust, a gafodd ei dadorchuddio yn Amgueddfa Torfaen ym Mhont-y-pŵl ddydd Iau. 

Cawsant gymorth gan Patrick Jones, y bardd lleol, a’r ffotograffydd Jon Pountney fel rhan o’r prosiect a ariannwyd gan y Grant Cydlyniant Cymunedol.  

Dadorchuddiwyd yr arddangosfa i nodi dechrau Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sydd eleni yn dathlu teulu. 

Un o'r rhai a gymerodd ran oedd Fred Edwards, disgybl ym mlwyddyn 8 a ddywedodd: "Rwyf mor falch ohonof fy hun ac yn teimlo'n llawer mwy hyderus nawr bod fy ngwaith yn cael ei arddangos mewn amgueddfa. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y prosiect hwn, na Lynne.

"Mae'r prosiect yn dangos pwy ydym ni a'n bod yn gymuned arferol sydd â ffordd o fyw wahanol".

Dywedodd Jon Pountney: "Rwyf wedi cael amser gwych gyda phlant, maen nhw'n griw agored a chyfeillgar iawn.

"Doeddwn i ddim am ymyrryd gormod a chyfarwyddo’r ffotograffiaeth yn ormodol, felly’r canlyniadau gwych a welwch ar y waliau o’n cwmpas yw’r hyn y maen nhw wedi eu creu ac rwyf mor falch ohonynt."

Dywedodd Lynne Robinson, Rheolwr Ymarfer Sipsiwn Teithwy, Cyngor Torfaen a fu'n gweithio gyda'i chydweithiwr Bronwyn Parker ar y prosiect: "Rydym yn hynod gyffrous i fod yn rhan o brosiect mor arloesol. Mae wedi rhoi cyfle i'r disgyblion archwilio a dathlu eu diwylliant, ac maent hefyd wedi ennill sgiliau gwerthfawr wrth wneud hynny.

"Mae hefyd yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned nad ydynt yn deithwyr, gael cipolwg llawer ehangach ar fywydau go iawn y cymunedau Roma a Sipsiwn Teithwyr sy'n byw ledled y fwrdeistref."

Gallwch weld adroddiad ITV Cymru am yr arddangosfa ddydd Llun yma o 6pm. 

Bydd Arddangosfa Wanderlust yn cael ei harddangos bob dydd Mercher rhwng 10am - 1pm, a phob dydd Sadwrn rhwng 1pm a 4pm, am weddill y mis.

Gall ysgolion a grwpiau mwy, ofyn am ymweliad drwy gysylltu ar gyfeiriad e-bost yr amgueddfa outreach@torfaenmuseum.org.uk neu ffonio 01495 752036.

I gael mwy o wybodaeth am fis SiRTh, ewch i: Friends, Families and Travellers (gypsy-traveller.org)

Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2024 Nôl i’r Brig