Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Mehefin 2024
Mae gwirfoddolwyr wedi rhoi dros 15,000 o oriau dros y flwyddyn ddiwethaf wrth helpu i gynnal mannau diwylliannol y fwrdeistref.
Eleni, mae 40fed pen-blwydd Wythnos Gwirfoddolwyr, dathliad ledled y DU sy’n amlygu effaith anhygoel gwirfoddolwyr mewn cymunedau.
Mae Niamh O’Dobhain, 24, o Gwmbrân, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Gelf Maenor Llantarnam ers bron i ddwy flynedd, yn Wirfoddolwr Arddangosfeydd.
Dywedodd: “Mae Maenor Llantarnam yn cynnig profiad gwerthfawr wrth ddatblygu a chael sgiliau newydd i fy helpu i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau.
“Trwy wirfoddoli, rwyf wedi cael profiad o gynorthwyo gyda’r curadu a gosod arddangosfeydd i’r gymuned leol.
“Mae’n lle cyfeillgar a chefnogol sydd wedi fy helpu i aros yn greadigol a chynnal fy ngwaith celf ers graddio o’r brifysgol.”
Dywedodd Alice Bethune, Cyfarwyddwr Ariannol Canolfan Gelf Maenor Llantarnam sydd wedi elwa o 450 o oriau gan wirfoddolwr: “O gynorthwyo yn ystod newid ein harddangosfeydd, glanhau byrddau yn y caffi, at gynnal ein gardd flaen, a llawr mwy, mae ein gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Gelf Maenor Llantarnam yn ein helpu i gyflwyno arddangosfeydd, gweithgareddau a nifer o ddigwyddiadau eraill i’n cymuned a thu hwnt.
“Mae ein gwirfoddolwr yn amrywio o rai tymor hir i rai tymor byr, myfyrwyr yn dilyn profiad gwaith ac sy’n ceisio dilyn gyrfa yn y celfyddydau, i’r rheiny sydd am gael mwy o hyder a chymryd mwy o ran yn y gymuned.
“Hoffem ddiolch i’n gwirfoddolwyr i gyd, yn awr ac yn y gorffennol, am eu hamser, eu hymdrech a’u hymrwymiad; rydym yn ddiolchgar iawn.”
Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn allweddol wrth gynnal y lleoliadau canlynol:
Neuadd Gweithwyr Blaenafon: Mae cyfanswm o 2,500 o oriau gwirfoddolwyr wedi helpu i gynnal y lleoliad hanesyddol yma.
Theatr Congress: Mae gwirfoddolwyr wedi rhoi 5,705 o oriau i gefnogi digwyddiadau a pherfformiadau diwylliannol.
Amgueddfa Torfaen: Mae gwirfoddolwyr wedi buddsoddi 2,592 o oriau i gadwraeth hanes ac arteffactau’r rhanbarth.
Mae gwirfoddolwyr gyda Grŵp Treftadaeth Blaenafon hefyd wedi rhoi tua 4,200 o oriau at gadw a hyrwyddo treftadaeth leol.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr yn un o’r lleoliadau yma, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol os gwelwch yn dda.
Farall, ewch i www.connecttorfaen.org.uk i weld unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol.