Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024
Canolfan newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae cyfleuster newydd gwerth £500,000 i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddatblygu yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân.
Disgwylir i'r ganolfan, a fydd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i tua 50 o ddisgyblion, gael ei chwblhau mewn pryd ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Mae gwaith i ymestyn safle anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASA) presennol yr ysgol yn mynd rhagddo i gynnig cartref i’r cyfleuster newydd, a fydd yn cynnwys cegin, lleoedd i eistedd dan do ac yn yr awyr agored a gardd synhwyraidd y gall y gymuned ei llogi gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Dywedodd Caroline Payne, Pennaeth y Safle ASA: “Rydym yn ffodus iawn i gael y cyfleuster newydd hwn i ddiwallu anghenion y myfyrwyr. Bydd yn ein helpu i ddatblygu'r cwricwlwm a chymryd rhan yn y gymuned. Rydym yn gyffrous iawn am y cyfnod newydd hwn a'r cyfleoedd fydd ar gael."
Dywedodd Archie Thompson, myfyriwr yn safle ASA,: “Rydym yn edrych ymlaen at gael llawer mwy o le i wneud gweithgareddau, a threulio mwy o amser gyda ffrindiau, dysgu a chael hwyl.”
Dywedodd Kathryn Ayling, Swyddog Cyswllt Teuluol: “Rwyf mor gyffrous i rannu'r ddarpariaeth newydd hon gyda'r gymuned ehangach. Bydd hwn yn fan diogel, newydd, lle gall pobl ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. Gobeithiaf y bydd hyn yn atgyfnerthu ac yn datblygu’r berthynas gyda'u teulu a'n hysgol."
Dywedodd Matt Sims, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân: “Rwy'n falch iawn i gyhoeddi'r ddarpariaeth newydd yn ein hysgol. Rhoddwyd yr arian i ganiatáu i'r ysgol hon estyn allan i'r gymuned leol a darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau i gefnogi teuluoedd lleol, gyda'r nod o feithrin perthnasoedd parhaol."
Fis diwethaf, cyflwynwyd dwy wobr i'r ysgol gan y Sefydliad Ymgysylltu Cymunedol, sy'n cydnabod y gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i gefnogi disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach.