Grantiau i helpu mentrau cymdeithasol i dyfu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024

Mae grantiau’n cael eu cynnig i wyth menter gymdeithasol i helpu i sicrhau eu sefydlogrwydd ariannol tymor hir.

Amcangyfrifir fod yna dros 30 o fentrau cymdeithasol yn Nhorfaen, gan gynnwys darparwyr gofal cymdeithasol, prosiectau ailgylchu a mentrau bwyd cydweithredol.

Yn draddodiadol, mae’r busnesau yma’n dibynnu ar grantiau tymor byr, ochr yn ochr â dulliau amgen o ariannu.

Nawr, mae wyth grant o hyd at £50,000 yn cael eu cynnig, ochr yn ochr â phecyn o hyfforddiant a chefnogaeth wedi ei anelu at nodi cyfleoedd newydd am incwm cynaliadwy.

Mae’r Her Menter Gymdeithasol yn cael ei redeg gan dîm Creu Cymunedau Cydnerth Cyngor Torfaen a bydd hefyd yn cynnwys help i ddatblygu model cynaliadwyedd 12 mis.

Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb trwy ddanfon e-bost at CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk erbyn Dydd Mercher, 31 Gorffennaf.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Mae hwn yn gyfle gwych i fentrau cymdeithasol Torfaen wneud gwahaniaeth parhaus i’w sefydliadau a’u cymunedau lleol. 

"Nod yr her yma yw eu helpu i fod yn fwy annibynnol ac yn llai dibynnol ar ariannu tymor byr, fel y gallan nhw greu newid gwirioneddol a chynaliadwy." 

Bydd mentrau cymdeithasol cymwys yn cael eu hysbysu ac yn derbyn pecyn cais. Bydd angen cyflwyno ceisiadau yn Awst.  

Ym Medi llynedd, rhoddodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ystyriaeth i adroddiad yn amlinellu gwerth economaidd a chymdeithasol mentrau cymdeithasol.

Mae’r Her Menter Gymdeithasol wedi derbyn £450,000 o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/07/2024 Nôl i’r Brig