Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynlluniau diwygiedig i wella diogelwch a lleihau llifogydd ar safle hen waith haearn.
Mae’r cynlluniau newydd yn dal i gynnwys dyfrffordd newydd ar ben y tri, llyn a llwybr cerdded ar safle’r British, Tal-y-waun, yn yr ardal a adnabyddir fel "y clwt du".
Tynnwyd ail bwll i ffwrdd ar ôl i waith ymchwiliol benderfynu y byddai’n rhy ddrud i’w gwblhau, ac nid oedd yn rhan hanfodol o’r cynllun. Bydd rhyw 13 o siafftiau a mynedfeydd yn gael eu gwneud yn ddiogel fel rhan o’r gwaith.
Amlygodd yr adroddiad hefyd fod ymchwiliadau geo-technegol a chwyddiant wedi cynyddu cost cwblhau’r prosiect o £1.25m.
Wrth siarad yn nghyfarfod y cyngor ar ddydd Mawrth, dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Roeddem ni’n gwybod pan brynon ni’r safle yn 2016 bod angen buddsoddiad sylweddol arno ac y byddai hynny’n cymryd cryn amser gan fod y safle hen safle diwydiannol gyda nifer o beryglon hysbys ac anhysbys.
"Ni ddylem ni anghofio fod safle’r British yn ased gwyrdd gwrth chweil yn y fwrdeistref ac mae cymaint o botensial ganddo ar gyfer cyfleoedd iechyd a lles, cyfleodd ynni gwyrdd a chyfleoedd gwaith.
"Mae’r adroddiad yn pwysleisio os na wnawn ni rywbeth nawr, bydd y safle’n aros fel y mae gyda’r holl beryglon a’r risgiau o lifogydd."
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y cynlluniau diwygiedig ac arian ychwanegol. Bydd cais nawr am ganiatâd cynllunio, gyda gwaith i ddechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf os caiff caniatâd cynllunio ei roi.
Cymerwch gipolwg ar y cynlluniau ar Cymryd Rhan Torfaen
Cymeradwyodd cynghorwyr hefyd ail adroddiad a oed dyn argymell bod y cyngor yn mynd i Gytundeb Datblygiad gyda cwmni ag amcanion cymdeithasol er mwyn edrych ar ddatblygiad posibl seilwaith ynni a defnydd masnachol o dir ar y safle.
Bydd swyddogion nawr yn datblygu Cytundeb Datblygu cyfreithiol gydag Idris, a fydd yn sail i sut y bydd y cyngor ac Idris yn gweithio gyda’i gilydd, os bydd yr arolwg dichonoldeb yn dangos bod potensial ar gyfer prosiect uchelgeisiol i greu ynni gwyrdd.
Byddai’r astudiaeth yn cynnwys asesiad o wahanol ffynonellau ynni gwyrdd ar y safle, gan gynnwys gwynt, solar o hydro, a chyfleoedd gwaith, yn ogystal â’r uchelgeisiau eraill yng Nghynllun Mawr y British, a gytunwyd yn 2018.
Yn ôl yr adroddiad, byddai Idris yn gyfrifol am unrhyw gostau ariannol sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth dichonoldeb.
Gallwch ddarllen y ddau adroddiad ar wefan Cyngor Torfaen