Dychwelyd yn gynnil i'r ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
school uniform

Ydych chi eisoes yn dechrau poeni ynglŷn â sut i fforddio gwisg ysgol ac offer newydd mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor newydd?

Ar ôl llwyddiant digwyddiadau blaenorol, bydd Cyngor Torfaen yn cynnal tri sesiwn siopa a chyfnewid gwisg ysgol:

  • Dydd Mercher, 14 Awst, 3pm - 5pm, Capel Bethlehem, Blaenafon.
  • Dydd Mawrth, 20 Awst, 10am - 12pm yn CCYP, Cwmbrân
  • Dydd Mercher, 21 Awst, 10am – 12pm ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

Yn ogystal â gwisgoedd ail law o ansawdd da, bydd hanfodion eraill i’r ysgol ar gael hefyd, y cyfan am ddim.

Mae rhieni’n cael eu hannog i ddod ag eitemau nad oes eu hangen bellach i’w cyfnewid am rai o feintiau mwy.

Gallwch roi eitemau o flaen llaw, yn y mannau canlynol :

  • Canolfan Treftadaeth Blaenafon, Dydd Mawrth – Ddydd Sul, 10am – 4pm.
  • Circulate, Blaenavon, Uned 14, Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas, Blaenafon, Pont-y-pŵl NP4 9RL – Dydd Llun – Ddydd Gwener 9am tan 4pm
  • Cyngor ar Bopeth, Adeiladau Portland, Commercial Street, Pont-y-pŵl. Dydd Llun – Ddydd Gwener 9:30pm – 4:30pm
  • Costar, 2 Fairwater Cl, Fairwater, Cwmbrân NP44 4TA. Dydd Llun – Ddydd Iau, 10am – 3pm, Dydd Gwener 9:30pm – 1:30pm
  • Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol, Uned 5, Ystâd Ddiwydiannol y Pafiliwn, Pontnewynydd, NP4 6NF – Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 9am to 1pm
  • Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Abersychan, NP4 7LH – Dydd Llun – Ddydd Gwener 9:30am – 4pm
  • Eglwys City Church, Freeholdland Road, Pontnewynydd – Dydd Llun 6-7pm, Dydd Mercher 1pm - 3pm, Dydd Iau 11am – 2pm.
  • TRAC2, Siopau Trefddyn, Siop 2, Church Avenue, Trefddyn, Pont-y-pŵl. Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am – 4pm.

Mae angen i bob rhodd fod mewn cyflwr da, glân a rhaid eu cludo at fan casglu erbyn 5pm ddydd Llun, 12 Awst 2024.

Bydd nifer o asiantaethau’n bresennol ar y diwrnod i gynnig cefnogaeth bellach, gan gynnwys timau cyflogadwyedd y cyngor a Chyngor ar Bopeth Torfaen, a fydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth ariannol, cyflogaeth a lles.

Hefyd, mae ceisiadau ar gyfer Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru wedi ailagor, a gallai roi help gyda chost gwisg ysgol, a dillad ac offer chwaraeon.

Gallwch weld a ydych chi’n gymwys trwy fynd at https://www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: “Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned ym mhob ffordd bosibl, yn enwedig yn ystod yr amserau heriol yma.  Mae sesiynau siopa a chyfnewid yn gynllun gwych sydd nid yn unig yn helpu teuluoedd i arbed arian, ond mae hefyd yn hyrwyddo gwerthoedd pwysig ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu.

“Trwy annog cyfnewid gwisgoedd ail law a hanfodion eraill o ansawdd da, rydym yn cymryd camau sylweddol tuag at leihau gwastraff a meithrin dyfodol mwy cynaliadwy."

Diwygiwyd Diwethaf: 24/07/2024 Nôl i’r Brig