Cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth addysg

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024

Mae arolygwyr Estyn wedi cydnabod gwelliannau mewn arweinyddiaeth, rheolaeth perfformiad a gwerthusiad yng ngwasanaeth addysg y cyngor. 

Ymwelodd arolygwyr â’r gwasanaeth ym Mehefin fel rhan o gyfres o ymweliadau monitro ar ôl adroddiad Estyn ym Mawrth 2022, a nododd fod angen gwelliant sylweddol ar y gwasanaeth.

Canolbwyntiodd ymweliad monitro Mehefin ar argymhellion dau a thri:

  • Cryfhau rheolaeth perfformiad.
  • Cryfhau prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant a’r cysylltiad rhyngddyn nhw.

Nododd arolygwyr welliant mewn arweinyddiaeth, rheolaeth perfformiad, hunanwerthusiad a chynllunio gwelliant.

Bydd arolygwyr yn ymweld â’r gwasanaeth eto yn yr hydref i asesu’r perfformiad yn erbyn y ddau argymhelliad arall: 

  • Gwella deilliannau i ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
  • Gwella arweinyddiaeth strategol dysgu ac ADY.

Yn ôl adroddiad i’r cyngor yn gynharach heddiw, bydd Estyn yn penderfynu a oes modd tynnu’r gwasanaeth o gategori gwelliant sylweddol ar ôl yr ymweliad yn yr hydref.

Datblygwyd Cynllun Gwella Addysg i fynd i’r afael â’r argymhellion wedi’r adolygiad ym Mawrth 2022, yn ogystal â blaenoriaethau addysgol ehangach, gan gynnwys lles dysgwyr, llwybrau dysgwyr a’r amgylchedd digidol a chorfforol.

Mae Grŵp Gwelliant Cyflym a Bwrdd Gwelliant Strategol wedi bod yn goruchwylio cyflenwi’r cynllun yn ogystal ag ymweliadau monitro gan Estyn.

Wrth annerch cyfarfod y cyngor heddiw, dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Pan ddown ni allan o fonitro gan Estyn, byddwn yn parhau i ymdrechu i fod y gorau yng Nghymru. Bydd y Grŵp Gwelliant Cyflym yn parhau i sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny, ac mae hynny’n ymrwymiad yn y Cynllun Gwella Addysg."

Diolchodd y Cyng. Clark i aelodau’r gwasanaeth addysg ac aelodau craffu.

Diolchodd arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt hefyd i athrawon, cynorthwywyr dysgu a staff cymorth am eu gwaith mewn ysgolion. 

Mae ysgolion Torfaen i gyd wedi cael eu harolygu fel rhan o gylchdro arolygu Estyn, sy’n dod i ben yn Haf 2024. Gallwch weld yr adroddiadau ar wefan Estyn

Bydd cylchdro newydd, chwe blynedd, o arolygiadau gan Estyn yn dechrau ym Medi 2024.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/07/2024 Nôl i’r Brig