Cam nesaf ailddatblygiad Fferm Greenmeadow

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
GMF new design 2

Mae aelodau’r Cabinet wedi cymeradwyo penderfyniad i benodi cwmni adeiladu i ddechrau gwaith ar ailddatblygiad £3.7miliwn Fferm Gymunedol Greenmeadow. 

Mae’r cytundeb wedi ei roi i G Oakley and Sons ar ôl proses dendro gystadleuol.

Disgwylir i waith ddechrau ar y prosiect ym Medi 2024, gyda disgwyl i’r fferm ailagor yng Ngwanwyn 2025.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Rydym yn falch iawn o fedru cyhoeddi dyfarnu’r cytundeb heddiw. 

"Mae hyn yn nodi’r cam nesaf yng ngwaith adnewyddu, adfywio ac ailagor Fferm Gymunedol Greenmeadow.”

Ychwanegodd Gay Coley a Susan Hill o ymgynghorwyr Coley Hill: "Cawsom yr her o sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r fferm, darparu ased cymunedol bywiog a diwrnod allan gwych i deuluoedd lleol ac ymwelwyr.

“Mae ein tîm dylunio wedi gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu cynlluniau sy’n gwarchod personoliaeth a threftadaeth y fferm ac yn gwneud y cyfleusterau’n gyfoes i ganiatáu mynediad i bawb.  Mae dyfarnu’r tendr adeiladu er mwyn cyflenwi’r dyluniad yma’n mynd â ni at y cam nesaf o droi hyn yn realiti.”

Llynedd, cymeradwyodd cynghorwyr fuddsoddiad pellach ar gyfer ailddatblygu’r fferm, a fydd yn cynnwys:

  • ysgubor ar ei newydd wedd a fydd yn addas ar gyfer digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys priodasau a phartïon
  • ysgubor chwarae newydd dan do gydag offer chwarae a man chwarae awyr agored newydd  
  • ysgubor newydd i anifeiliaid
  • caffi newydd ac estynedig
  • siop fferm wedi ei gwella i hyrwyddo cynnyrch a chyflenwyr lleol
  • tirweddu deniadol gyda choetir, llwybrau a llwybrau synhwyraidd
  • gwelliannau i fynedfa’r fferm a hygyrchedd y safle.

Cafwyd grant ychwanegol o £1.56miliwn yn gynharach eleni i dalu cost system gwresogi newydd, effeithlon o ran ynni, ochr yn ochr â £173,418 o arian cyfatebol o arian wrth gefn hinsawdd y cyngor.

NODIADAU i olygyddion

Trowyd y fferm yn atyniad i ymwelwyr yn yr 1980au ar ôl bod yn fferm am dros 250 o flynyddoedd. Mae’n dal i fod yn fferm weithredol.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/07/2024 Nôl i’r Brig