Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024
Mae ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl wedi ennill gwobr ecolegol uchel ei bri am yr wythfed flwyddyn yn olynol.
Dyfarnwyd Baner Platinwm i ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Penygarn drwy'r rhaglen Eco-sgolion, diolch i'w cynllun gweithredu Eco-Ysgol, sy'n cynnwys casglu sbwriel, ailgylchu, a monitro gwastraff bwyd a thrydan.
Mae ysgolion yn ennill Statws Platinwm unwaith y byddant wedi ennill y Faner Werdd bedair gwaith – gan ddangos eu hymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cynnwys myfyrwyr a chynaliadwyedd.
I ennill yr anrhydedd ddiweddaraf hon, aeth grŵp Senedd Eco yr ysgol, sy'n cynnwys 20 o blant o flynyddoedd 4 i 6, ati i gyflawni prosiect ailgylchu ysgol-gyfan.
Roedd yn golygu bod disgyblion yn ymweld â phob ystafell ddosbarth i gyfrif nifer y biniau gwastraff a nodi'r hyn yr oeddent yn cael eu defnyddio ar ei gyfer. Buont yn siarad â disgyblion ac athrawon i weld a oeddent yn teimlo bod yr ailgylchu'n effeithiol, ac os na, beth ellid ei wneud yn well.
Penderfynodd y plant y byddent yn ailddefnyddio'r biniau presennol ac yn eu hail-labelu i gyd-fynd â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu, gyda phob disgybl ac aelod o staff yn deall yn well sut i ailgylchu yn eu hystafelloedd dosbarth.
Trwy ailddefnyddio'r biniau arbedwyd tua £300 i'r ysgol, a bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen addysg amgylcheddol ryngwladol sy'n cael ei rhedeg yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw ysbrydoli a grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr newid yn eu cymunedau, gan eu helpu i ddysgu am fyw'n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau a fydd o fudd i'w hysgol, yr amgylchedd lleol a'r gymuned ehangach, er enghraifft lleihau gwastraff, defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a sbwriel.
Meddai Elizabeth Williams, Arweinydd Senedd Eco Ysgol Gynradd Penygarn: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cadw ein statws Baner Werdd Platinwm, gwobr sy’n agos at ein calonnau, gan ein bod mor angerddol am weithredu amgylcheddol a dysgu yn ein cymuned a thu hwnt.
"Fe wnaeth pob disgybl ac athro elwa ar y trafodaethau a gafwyd. Roedd yn dda gweld pawb yn cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynyddu eu gwybodaeth am ailgylchu."
Meddai Kylie Hughes, Swyddog Addysg Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r Faner Platinwm yn gyflawniad pwysig iawn ac yn tynnu sylw at y brwdfrydedd a'r ymrwymiad sydd gan Ysgol Gynradd Gymunedol Penygarn tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae ymroddiad y Pwyllgor Eco dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn ysbrydoledig. Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion a’r staff a diolch iddynt am eu gwaith caled!"
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion ewch i Keep Wales Tidy Account Login Cadwch Gymru'n Daclus