Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024
Mae cynlluniau i wella diogelwch a lleihau'r perygl o lifogydd ar safle hen waith haearn wedi cael eu diwygio, yn ôl adroddiad a fydd yn cael ei drafod gan gynghorwyr.
Mae'r cynlluniau diwygiedig yn dal i gynnwys cwrs dŵr newydd uwchben y ddaear, a fydd yn draenio i mewn i bwll, a rhodfa newydd yn Y British, yn Nhal-y-waun. Amcangyfrifir y bydd 13 o siafftiau a mynedfeydd mwyngloddio yn cael eu gwneud yn ddiogel yn rhan o'r gwaith.
Fodd bynnag, mae gwaith paratoi ar y safle y cyfeirir ato’n lleol fel y “black patch” wedi dod i'r casgliad y byddai cynlluniau ar gyfer ail bwll, mwy o faint, yn rhy gostus ac nad ydynt yn hanfodol i'r cynllun cyffredinol.
Yn ôl yr adroddiad, mae'r ymchwiliadau geodechnegol a chwyddiant hefyd wedi ychwanegu £1.25m at yr amcanbris ar gyfer cwblhau'r gwaith.
Dywed yr adroddiad: "Mae'r costau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r cynllun wedi cynyddu yn ystod y cam dylunio manwl, ac mae hyn yn gysylltiedig â nifer o ffactorau gan gynnwys chwyddiant ac amodau tir hynod o heriol."
Mae swyddogion bellach wedi argymell bod cynghorwyr yn cymeradwyo £1.25m yn ychwanegol ar gyfer y prosiect i ystyried unrhyw gynnydd posibl arall wrth i'r cynllun fynd rhagddo.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd cais am ganiatâd cynllunio a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf os rhoddir caniatâd cynllunio.
Yn gynharach yr wythnos hon, ymwelodd tua 40 o drigolion â sesiwn alw-heibio yn Neuadd Gymunedol Tal-y-waun i weld y cynlluniau diwygiedig, sy'n cynnwys pwll a fydd yn gallu gwrthsefyll digwyddiad llifogydd unwaith mewn 100 mlynedd, gyda chynhwysedd storio ychwanegol o 20 y cant i ystyried newid hinsawdd.
Gan fod yr ardal yn safle ecolegol pwysig, bydd llystyfiant yn cael ei annog i beillio'n naturiol.
Edrychwch ar y cynlluniau ar Dweud Eich Dweud Torfaen
Mae disgwyl i'r adroddiad fynd gerbron y Cyngor ddydd Mawrth 23 Gorffennaf. Gallwch ddarllen yr adroddiad ar wefan Cyngor Torfaen.
Mae Cynllun Draenio Gwaith Haearn Y British yn rhan o gam cyntaf Uwchgynllun Y British, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r gymuned leol ac a gymeradwywyd gan gynghorwyr ym mis Tachwedd 2018.
Mae'r Cyngor yn parhau i archwilio opsiynau i gyflawni gweddill yr Uwchgynllun. Yn ystod yr un cyfarfod ym mis Gorffennaf, gofynnir i gynghorwyr ystyried cytuno i'r telerau ar gyfer cyfres o astudiaethau dichonoldeb gan Idris, sef cwmni sydd â ffocws cymdeithasol, a fydd yn archwilio'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy a gofod i fusnesau newydd, fel rhan o ail gam ar wahân ar gyfer Y British.