Buddsoddiad yn helpu i warchod treftadaeth y dref

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024
THP

Mae bron i £2m wedi'i fuddsoddi ym Mlaenafon dros y pum mlynedd diwethaf, diolch i brosiect sy’n aneli i ddiogelu treftadaeth canol y dref. 

Mae pum adeilad allweddol wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o Rhaglen Treftadaeth Treflun (RhTT), yn cynnwys y Market Tavern hanesyddol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei droi’n unedau preswyl a masnachol.

Cyflwynwyd deg gweithgaredd cymunedol gwahanol fel rhan o'r fenter sy'n dod i ben yr haf hwn.  

Heddiw, mae arolwg yn cael ei lansio i asesu effaith prosiect RhTT. Gall preswylwyr gymryd rhan ar lein yma neu gallant godi copi papur o:  

  • Siop Fwyd y Co-op, Ivor Street, Blaenafon NP4 9NA 
  • Gwesty’r Lion Hotel, 41 Broad Street, Blaenafon NP4 9NH 
  • Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Church Road, Blaenafon NP4 9AE 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw hanner nos ddydd Llun 5 Awst. 

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae wedi bod yn hyfryd gwylio adeiladau'n cael eu hadfer i'w hen ogoniant, a chymuned Blaenafon yn dod at ei gilydd i weithio ar brosiectau gwych. 

“Gallwch weld a theimlo effaith y rhaglen hon dim ond drwy edrych o gwmpas y dref a siarad â phreswylwyr. 

“Mae wedi bod yn daith go iawn, ac mae llawer o bobl wedi ailddarganfod treftadaeth y dref. 

“Rwyf wrth fy modd gyda'r canlyniadau a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect am eu holl waith caled yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

“Rwyf yn annog pobl i lenwi’r arolwg oherwydd bydd adborth y gymuned yn cefnogi ceisiadau a datblygiadau yn y dyfodol.” 

Dywedodd y Cyng. Gareth Davies: “Fel Cadeirydd Rhaglen Treftadaeth Treflun rwyf wedi bod yn hapus i gyfrannu at y dasg o werthuso'r prosiect. Mae dysgu gwersi am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn y gellid fod wedi ei wella yn gam hanfodol wrth baratoi ceisiadau a rhaglenni cyllido yn y dyfodol, felly rwy'n falch o annog preswylwyr a rhanddeiliaid i roi eu barn i'r gwerthusiad trwy lenwi'r arolwg ar-lein.” 

Dechreuodd y rhaglen TT yn 2018 diolch i grant gwerth £1.9m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw ac Ymgeiswyr y Sector Preifat.

Fel rhan o'r rhaglen, llynedd crëwyd tapestri yn cofnodi atgofion o siopau a busnesau ar Broad Street Blaenafon. 

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd y tapestri ei droi’n arddangosfa ddigidol a sain newydd, a gellir ei gweld yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Hefyd, crëwyd ffilm “Hidden Histories of Blaenavon” sy’n archwilio a dathlu cymeriadau allweddol a llai adnabyddus a helpodd i  lunio tref Blaenafon yn oes Victoria. Crëwyd hefyd Mynavon, sef  fideo Youtube gan bobl ifanc gyda chefnogaeth Côr Meibion Blaenafon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2024 Nôl i’r Brig