Mae angen eich barn ar Orchmynion Rheoli Cŵn

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024
dog

Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn helpu cynghorau lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus fel ardaloedd chwarae i blant a meysydd chwaraeon.

Mae tri GDMC ar waith yn Nhorfaen yn ymwneud â chŵn, a rhaid eu hadolygu bob tair blynedd: 

  • Baw cŵn: Mae hwn yn Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar draws y fwrdeistref gyfan, lle mae'n drosedd peidio â chodi baw ci o unrhyw dir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo.
  • Mannau Gwahardd Cŵn: Mae 140 o ardaloedd yn y fwrdeistref sy’n gwahardd cŵn, yn cynnwys tir ysgolion, ardaloedd chwarae i blant a chaeau chwaraeon sydd wedi’u marcio. Gwaherddir gŵn hefyd o ardal bridio cornicyllod ger Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn. 
  • Ardaloedd i gŵn ar dennyn: Mae hefyd yn drosedd gadael ci oddi ar dennyn mewn ardaloedd penodol, gan gynnwys Llynnoedd y Garn, Llyn Cychod Cwmbrân, a phob un o fynwentydd y Cyngor.

Fel rhan o'r adolygiad, mae angen i ni wybod a yw trigolion yn dal i gefnogi'r GDMC, a hoffent weld unrhyw newidiadau neu a ydynt yn meddwl y dylid cael gwared arnynt. Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad ar-lein erbyn hanner nos ddydd Gwener 26 Gorffennaf.

Ewch ati i rannu’ch barn ar Dweud Eich Dweud Torfaen

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r GDMC yn arf pwysig ym mrwydr y cyngor yn erbyn cadw ein mannau cyhoeddus yn lân ac yn ddiogel i bawb sy’n eu defnyddio.

“Mae’n hanfodol llenwi'r arolwg ar Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) er mwyn sicrhau bod llais ein cymuned yn cael ei glywed.”

Cyflwynwyd GDMC yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014. 

Mae gan bob ardal sy’n destun GDMC arwyddion yn egluro’r hyn sy’n ofynnol er mwyn annog pobl i lynu atynt, yn ogystal â manylion sut i roi gwybod pan fydd rhywun yn mynd yn groes iddynt.

Mae mynd yn groes i GDMC yn drosedd, a gall arwain at gosb sy’n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 neu ddirwy o hyd at £1,000 ar gollfarn.

Dod o hyd i fwy o wybodaeth am GDMC yn Nhorfaen   

Rhoi gwybod am broblemau baw cŵn 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/07/2024 Nôl i’r Brig