Ysgol yn cael gwobr Calon y Gymuned

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024
Llantarnam award

Mae ysgol gynradd yng Nghwmbrân yn dathlu ar ôl ennill pum gwobr gymunedol - ar yr un pryd! 

Gwnaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam gais am eu gwobr gyntaf gan y Sylfaen Ymgysylltiad Cymunedol yn Chwefror, ac roedd y sefydliad mor llawn edmygedd o’u cais nes iddyn nhw roi gwobrau efydd, arian ac aur a Chalon y Gymuned – y ganmoliaeth uchaf.

Elusen yw’r Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol sy’n cefnogi ysgolion i adeiladu partneriaethau effeithiol gyda rhieni a gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Cafodd yr ysgol glod am ei hwb ar ôl ysgol i deuluoedd, y cylch chwarae wythnosol a’i Phrosiect Caredigrwydd yn y Gymuned, sy’n dosbarthu blychau bwyd i ryw 40 o deuluoedd pob pythefnos.

Cafodd y swyddog cyswllt teuluol, Emily Boshein, hefyd, wobr Pencampwr y Gymuned am ei gwaith wrth ddatblygu prosiect caredigrwydd, yn ogystal â’r gefnogaeth dydd i ddydd y mae’n ei rhoi i deuluoedd.

Hefyd, gafodd corff llywodraethol yr ysgol glod am ei bresenoldeb gweladwy yn yr ysgol ac am helpu i hwyluso gweithgaredd y tu allan i’r cwricwlwm a gwobrau i’r disgyblion.

Cyflwynwyd tystysgrifau a phlaciau wedi'u fframio i'r ysgol ar ddiwedd yr arddangosfa yn gynharach yr wythnos hon gan Sue Davis - cyfarwyddwr elusen Sefydliad Ymgysylltu â'r Gymuned.

Dywedodd Sue, “Yn y sefydliad, roeddem ni wedi’n cyffroi o glywed am y gwaith ymgysylltiad cymunedol anhygoel sy’n digwydd pob dydd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam – sy’n amlwg ac yn weladwy ar draws yr ysgol.

“Nid yn unig ydym ni’n falch o fedru rhoi pob un o’r pum gwobr i Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam, ond rydym yn falch iawn o gael eu gwneud yn Llysgenhadon y Sefydliad, Diolch yn Fawr”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llantarnam, Laura Perrett: “Rydym yn falch iawn o dderbyn achrediad Calon y Gymuned ac rwy’n falch i awn o fod yn arwain tîm Llantarnam sy’n gweithio’n galed iawn ac yn ymdrechu’n barhaus i wella a datblygu ein cysylltiadau teuluol a chymunedol ardderchog.”

Diwygiwyd Diwethaf: 12/07/2024 Nôl i’r Brig