Goresgyn rhwystrau at waith

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024
CELT plus daniel

Mae dyn o Bont-y-pŵl wedi mynd o fod yn ddi-waith at gael swydd y mae wrth ei fodd â hi, diolch i raglen gwaith â chymorth Cyngor Torfaen.

Cofrestrodd Daniel Eason, 33, i gael cefnogaeth cynllun CELT Plus ym Mehefin llynedd ar ôl bod yn ddi-waith am ddwy flynedd a chael trafferth cael hyd i waith addas.

Helpodd y tîm yn siop Torfaen yn Gweithio yng Nghwmbrân Daniel i sgleinio’i CV a chwilio am waith, yn ogystal â’i gyfeirio at gefnogaeth iechyd a lles.

Fe wnaethon nhw hefyd ei helpu i daclo un o’r rhwystrau mwyaf oedd ganddo rhag cael gwaith – dim trafnidiaeth.

Cyfeiriodd y tîm Daniel i brosiect Changing Gearz a roddodd feic iddo i’w alluogi i fynd i hyfforddiant a lleoliadau gwaith.

Ers hynny, mae wedi llwyddo i gael swydd amser llawn, parhaol, gyda Button Fresh, ym Mamheilad, trwy brosiect Success Plus – sy’n cefnogi cyflogwyr i gynnig cytundebau gosodiadau gwaith cyflogedig am chwe mis wedi eu hariannu’n llawn.

Dywedodd Daniel: “Mae tîm CELT Plus wedi fy helpu bob cam o’r ffordd o gael swydd,  roeddwn i’n cael y syniad o chwilio  am waith yn anodd iawn oherwydd doedd gen i ddim trafnidiaeth nac arian i fynd i hyfforddiant neu gyfweliadau, ond fe wnaethon nhw fy helpu i gael beic a rhoddon nhw docyn bws i fi i helpu gyda chyrraedd gwaith.

“Maen nhw hefyd wedi trefnu fy mod o’n cael help gydag iechyd meddwl a fy hyder fel trefnu sesiynau yn y gampfa a boreau coffi. Rydw i am ddiolch i Katie, Vic ac Aled am eu cefnogaeth gan fod hyn wir wedi gwneud gwahaniaeth wrth fy ngalluogi i wneud gwaith yn gwneud rhywbeth rydw i’n mwynhau.”

Rhoddodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr  Economi, Sgiliau ac Adfywio, glod i’r ymdrechion ar y cyd, gan ddweud:

“Mae llwyddiant Daniel yn dangos nerth cydweithio, cefnogaeth bersonol a phenderfyniad.  Mae CELT plus, ochr yn ochr ag asiantaethau eraill, yn parhau i rymuso pobl fel Daniel, gan sicrhau ei bod yn goresgyn rhwystrau a’u bod yn cyfrannu mewn ffordd ystyrlon i’w cymunedau.”

Mae CELT plus, wedi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, yn cynnig cefnogaeth cyflogadwyedd cynhwysfawr i unigolion yn Nhorfaen.

Gall y rheiny sy’n cymryd rhan gael cymorth gyda CV, chwilio am waith a hyfforddiant, gyda’r cyfan yn anelu at oresgyn rhwystrau at waith.

Am fwy o wybodaeth am brosiect CELT plus, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2024 Nôl i’r Brig