Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024
Mae plant sydd ar fin dechrau addysg yn y dosbarth derbyn ym mis Medi wedi cael profiad arbennig o amser cinio mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân.
Am y tro cyntaf, gwahoddodd Ysgol Gymraeg Cwmbrân y plant meithrin a'u rhieni i brofi cinio dau-gwrs yn neuadd ginio’r ysgol, yn rhan o'u paratoadau at addysg lawn-amser.
Y nod oedd cyflwyno'r plant i staff y neuadd ginio a'r ardal a thynnu sylw at y math o opsiynau bwyd sydd ar gael am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn Nhorfaen, yn rhan o gynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru.
Cafodd rhieni gyfle i weld yr amrywiaeth o fwydydd sydd ar gael, gan gynnwys y bar pasta a'r opsiynau prydau poeth, a gwylio’u plant wrth iddynt ymarfer sgiliau hanfodol fel defnyddio platiau a chyllyll a ffyrc a thorri bwyd.
Diolchodd Mariana Griffin, a ddaeth gyda'i mab Ioan, i'r ysgol am y gwahoddiad, gan ddweud: "Roedd hi'n wych cael ymuno â'n plant a chael profi eu cinio ysgol cyntaf. Roedd y dewisiadau bwyd yn wych ac fe wnaeth fy mab fwynhau'r bwyd yn fawr."
Ychwanegodd Emily Hackwood, y mae gan ei mab Arthur rai alergeddau bwyd: "Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r cyfle i siarad â staff wyneb yn wyneb, ac egluro unrhyw bryderon oedd gen i.
"Gallwn ni nawr barhau i baratoi Arthur ar gyfer symud i fyny dros wyliau'r haf trwy fabwysiadu'r un drefn gartref, er mwyn iddo deimlo'n gyfforddus a setlo pan fydd yn dechrau yn yr ysgol fis Medi."
Tîm arlwyo'r Cyngor oedd un o'r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd i bob plentyn oed ysgol gynradd, ym mis Medi 2023.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Roedd hwn yn gyfle gwych i'r disgyblion meithrin a'u rhieni i weld sut brofiad fydd amser cinio iddynt o fis Medi ymlaen ac i brofi rhywfaint o'r bwyd blasus, sy’n gytbwys o ran maeth, a ddarperir gan ein gwasanaeth arlwyo. Gobeithio y bydd yn lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw neu eu rhieni am amser cinio yn yr ysgol.
"Mae ein gwasanaeth arlwyo bob amser yn barod i gwrdd â rhieni mewn unrhyw ysgol gynradd i drafod opsiynau prydau bwyd ac unrhyw ofynion dietegol, i sicrhau bod pob disgybl yn gallu elwa ar y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd."
Rhaid i rieni sy'n cofrestru eu plant ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd am y tro cyntaf lenwi ffurflen gwasanaeth arlwyo Torfaen.
O gwblhau'r ffurflen, efallai y bydd rhai plant yn gymwys i gael grant Hanfodion Ysgol sy'n helpu i dalu am wisg ysgol, offer ymarfer corff a pethau hanfodol eraill.
Mae ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen yn dathlu buddion presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.
Yn ogystal â galluogi plant i dreulio amser o ansawdd da gyda'u ffrindiau, mae prydau ysgol yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli allan ar opsiynau maethlon wrth ddysgu.
Am ragor o wybodaeth am brydau ysgol, ewch i wefan Cyngor Torfaen