Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024
Mae her boblogaidd Sialens Ddarllen yr Haf yn dechrau eleni mewn llyfrgelloedd ar draws Torfaen ddydd Sadwrn yma.
Gwahoddir plant rhwng pedair ac 11 oed i gofrestru ar gyfer y Sialens i ddarllen neu wrando ar chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell dros yr haf.
Y thema eleni yw Crefftwyr Campus ac mae’n dathlu llyfrau am weithgareddau creadigol gan gynnwys cerddoriaeth, modelu ac ysgrifennu.
Bydd y plant yn cael casglu gwobrau difyr ar hyd y daith, gan gynnwys sticeri, bathodynnau a heriau origami.
Mae yna gyfle i ennill tocyn rhodd gwerth £100 ar gyfer Smyths Toys Superstore hefyd, a bydd enw un enillydd lwcus yn cael ei dynnu o’r het pan ddaw'r her i ben.
A'r rhan orau? Does dim angen talu ceiniog i ymuno yn yr hwyl. Gallwch ymuno â Llyfrgell Torfaen yn rhad ac am ddim - gallwch gofrestru i gael cerdyn llyfrgell ar wefan Cyngor Torfaen neu alw heibio i'ch llyfrgell leol.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Llwyddodd dros 400 o blant i gwblhau’r sialens ddarllen y llynedd a byddem wrth ein boddau i weld hyd yn oed mwy yn cyrraedd y targed yr haf hwn.
"Mae plant yn cael llond lle o hwyl yn ystod y Sialens ond maen nhw hefyd yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi yn ddarllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus."
The Reading Agency sy’n rhedeg Sialens Ddarllen yr Haf ac mae wedi cydweithio gyda'r elusen gelfyddydau Create ar gyfer y Sialens eleni.
Mae llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar i gyd yn cyfrif tuag at y Sialens.
Mae yna gyfres gyffrous o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio ar gyfer Llyfrgelloedd Torfaen trwy gydol gwyliau'r haf hefyd, o sesiynau Hwiangerddi bywiog i weithdai codio a chlybiau Lego.
Bydd y sesiynau stori a chrefft poblogaidd hefyd yn dychwelyd ar gyfer plant 5 i 10 oed, gyda’r tair llyfrgell yn eu cynnal trwy gydol mis Awst.
A does dim angen i blant ifancach fod ar eu colled chwaith, gan fod sialens fach hefyd ar gyfer plant dan 4 oed.
Am ragor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf a'r gweithgareddau sydd ar droed, ewch i'ch llyfrgell leol, dilynwch Torfaen Libraries ar Facebook neu ffoniwch 01633 647676.