Wedi ei bostio ar Dydd Llun 1 Gorffennaf 2024
Fe fydd hyd at 1,000 o bobl yn clymu lasys eu ‘sgidie rhedeg ar gyfer ras 10k Torfaen Mic Morris, ddydd Sul, 14 Gorffennaf.
Er diogelwch, fe fydd gofyn cau nifer o ffyrdd ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl rhwng 8am a 11:30am ar ddiwrnod y ras. Bydd y llwybrau y mae’r ras yn effeithio arnynt yn cynnwys:
- A4043 Cwmavon Road: O gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan.
- Old Road
- Limekiln Road
- Freeholdland Road
- George Street
- Mill Road
- Hospital Road
- Adran ogleddol Osbourne Road, hyd at ei chyffordd gyda Riverside.
- Riverside
- Park Road, yn arwain at Penygarn Road.
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn dechrau’r ras o Cwmavon Road ym Mlaenafon am 9am, ac yn croesi’r llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl heb fod yn hwyrach na 11am.
Er na fydd yr heolydd ochr yn cael eu cau’n swyddogol, fydd cerbydau ddim yn cael mynediad i lwybr y ras yn ystod y digwyddiad.
Os ydych yn rhagweld bod cau’r ffyrdd yn mynd i darfu ar eich gallu i deithio, gallwch estyn allan i adran Datblygu Chwaraeon Torfaen mewn da bryd trwy anfon neges e-bost i ben.jeffries@torfaen.gov.uk, neu ffonio 01633 628936. Byddan nhw’n cydlynu’r trefniadau rheoli traffig er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o anghyfleustra.
Meddai trefnydd y digwyddiad, Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, Ben Jeffries: “Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra mae cau’r ffyrdd yn ei achosi. Mae’r tîm wedi bod mewn cysylltiad â’r holl ddarparwyr gofal yn y Fwrdeistref, a dosbarthwyd gwybodaeth hefyd ymhlith y trigolion hynny sy’n byw ar hyd y ffyrdd y mae’r ras yn effeithio arnynt.
"Ein nod yw ailagor pob adran o’r llwybr cyn gynted â phosibl. Gobeithiwn y bydd y rhybudd cynnar hwn yn galluogi trigolion i gynllunio llwybrau amgen yn ystod y cyfnod byr hwn pan fydd y ffyrdd ar gau.”
Galwad olaf am redwyr
Os hoffech chi gymryd rhan yn y ras 10k i lawr y tyle, bydd gofyn i chi fynd amdani’n go gyflym oherwydd mae’r dyddiad cau i redwyr ddydd Mercher 10 Gorffennaf. I gofrestru, ewch i: https://www.micmorristrust.co.uk/Torfaen-10k/
Galw am wirfoddolwyr
Mae adran Datblygu Chwaraeon Torfaen yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi’r digwyddiad. I ddweud diolch, fe fydd gwirfoddolwyr yn cael lle am ddim yn ras y flwyddyn nesaf.
I gofrestru’ch diddordeb neu i noddi’r ras eleni, ffoniwch 01633 628936 neu anfonwch neges e-bost i holly.hinchey@torfaen.gov.uk