Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Ionawr 2024
Mae dyn a oroesodd yr Holocost ac a ddioddefodd bedwar gwersyll rhyfel a Gorymdaith y Meirw wedi rhoi ei fywyd i rannu neges gobaith.
Roedd Harry Spiro’n 10 oed pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl, ble roedd yn byw gyda’i rhieni a’i chwaer iau, yn 1939.
Cawson nhw eu gorfodi i fyw mewn getos cyn iddo gael ei wahanu o’i deulu a’i gymryd i wersyll rhyfel. Yn drist, cafodd ei deulu eu cymryd i wersyll arall a’i ladd.
Yn rhyfeddol, nid yr unig y bu Harry byw, ond mae hefyd wedi rhoi ei fywyd ers hynny i siarad am ei brofiadau ac mae wedi dewis "cariad, bywyd a chwerthin yn lle chwerwder".
Dwy flynedd yn ôl, siaradodd Harri a’i ferch, Tracy Moses, â’r tîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol yng Nghyngor Torfaen.
Mae eu hanes teimladwy wedi ei droi nawr yn bodlediad gyda Valleys Voices i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost y ddydd Sadwrn.
Gan ei fod nawr yn ei 90au, mae Harry wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddweud ei stori i Tracy, a ddywedodd: " Penderfynodd mam a dad yn fwriadol i beidio â byw gyda chasineb. Mae’n rhaid bod hyn yn arbennig o anodd iddo fe, ond mae e bob amser yn dewis cariad, bywyd a chwerthin yn lle chwerwedd.
"Balchder mwyaf dad yw gwybod nad yw ei blant yn byw gyda chasineb ac rydym ni wedi trosglwyddo hyn i’n plant ni hefyd fel y gallwn ni i gyd fyw bywydau hapus, cyffredin.
"Fel mae e’n dweud, os ydych chi’n byw gyda chasineb, yr unig un yr ydych yn eu brifo yw chi eich hun."
Wrth siarad mewn cyfarfod o’r cyngor ddydd Mawrth, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Y flwyddyn nesaf, byddwn yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz ac mae nifer y rheiny a oroesodd y gwersylloedd yn mynd yn brinnach.
"Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n cofio, yn rhoi parch a theyrnged iddyn nhw, a’n bod yn parhau i gofio’r pethau a arweiniodd at yr Holocost fel nad yw’r erchyllterau yma’n digwydd eto."
Gallwch wrando ar bodlediad Valleys Voices trwy Spotify, Apple iTunes neu drwy dudalen Valleys Voices ar y we.